Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/41

Gwirwyd y dudalen hon

Saesneg gael eu cynal yn ddifwlch ar hyd y flwyddyn, oblegid hyd yn hyn yn ystod misoedd yr haf yn unig y gwneid hyny. I gyfarfod â hyn, yn y flwyddyn 1877, adeilodd John Roberts, Ysw., Bryngwenallt, ar ei draul ei hun, gapel arall, ac mewn safle amgenach, i fod yn hollol at wasanaeth yr achos Saesneg, a bellach i sefydlu eglwys ynddo. Costiodd yr adeilad hwn tua £3,000, a throsglwyddwyd ef i fod yn rhyddfeddiant i'r Cyfundeb. Ac er mai un o flaenoriaid capel y dref oedd yntau, ac mai yno y derbyniwyd yr oll o'i blant i gyflawn aelodaeth, rhoddai ef a hwythau rhagllaw eu presenoldeb ran o bob Sabboth yn y capel Saesneg; ac arnynt hwy, o angenrheidrwydd, yn benaf y gorphwys y gofal am ddwyn yr achos ymlaen. Oherwydd nad ydyw poblogaeth Pensarn wedi cynyddu nemawr er's blynyddau lawer, a bod Eglwys Loegr hefyd. erbyn hyn wedi cyfodi yno adeilad i gynal gwasanaeth Saesneg, nis gellir disgwyl i'r eglwys Fethodistaidd fod yn lluosog. Ond y maent yn llawn sel a gweithgarwch. Yn 1890 adeiladwyd ganddynt ysgoldy cyfleus gerllaw y capel, a bydd yn fuan yn ddi-ddyled. Fel y crybwyllwyd eisoes, y gweinidogion sydd wedi bod yna yn gofalu am yr achos ydyw y Parch. E. W. Evans, M.A., o 1880-1902, a'r Parch. J. Henry Davies, o 1906 hyd yn awr.

Wedi agoriad y capel newydd Saesneg, defnyddiwyd y capel blaenorol yn unig at wasanaeth yr achos Cymraeg. Ar y dechreu ni chynhelid yno ond ysgol yn mhrydnawn y Sabboth a chyfarfod gweddio ganol yr wythnos. Ond mewn canlyniad i gais taer y cyfeillion yn y lle, a bod oedran ac amgylchiadau amrai o honynt yn gwneyd yn anhawdd iddynt fynychu y moddion yn y dref, caniatawyd iddynt gynal yr ysgol yn y bore a chael pregeth yn y prydnawn gan y gweinidog a fydd yn y dref. Dechreuwyd y gwasanaeth yn y ffurf hono y Sabboth cyntaf yn Mai, 1887. Ac er nad oes yno eglwys, na bwriad ar hyn o bryd