Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/47

Gwirwyd y dudalen hon

faith. Yr oedd y Court Bach yn ddau dy lled hir, isel, heb lofft arnynt, a'u hwynebau i ffordd Abergele, yn y man y saif Minafon yn bresenol. Araf yr oedd yr ysgol yn llwyddo yma eto, o blegid yn 1805-1806, cawn mai pedwar ar ddeg oedd nifer yr ysgolheigion, a dau athraw. Y rheswm, efallai, fod yr ysgolheigion yn llai nag oeddynt ddwy a thair blynedd cyn hyn oedd, fod cangen ysgol wedi ei sefydlu yn y Wern Bach, yn agos i Bodrochwyn, lle yr ydoedd un o'r enw Thomas Jones yn byw. Cawn felly ddwy gangen ysgol yr un pryd: pedwar-ar-ddeg o ysgolheigion a dau athraw yn y Court Bach, a deunaw o ysgolheigion gyda dau athraw yn y Wern Bach. Gwelir felly fod rhwng y ddwy gangen-ysgol hyn yn 1805-06 gynifer ag un-ar-bymtheg-ar-hugain o ysgolheigion. Plant gan mwyaf oedd yn y Wern Bach, un-ar-ddeg o'r deunaw yn dysgu y wyddor. Symudwyd y gangen-ysgol hon drachefn i Wern Ciliau; y tenant ydoedd Thomas Parry, a bu y gangen hon yn Ngwern Ciliau hyd nes codi capel Tabor.

Pan y byddai pregethwr yn d'od ar ei dro, byddai yn pregethu fel rheol yn y Court Bach, ac ar achlysuron neillduol, pan y byddai un o'r cewri yn dyfod i'r plwyf, ceid benthyg ysgubor y Ty Isa' gan John Roberts, y tenant dan goeden gelynen, wrth ben y Court Bach, yr oedd y Parch. W. Davies, Castellnedd, ugain mlynedd neu ragor cyn hyn, yn ceisio pregethu, pan yr aflonyddwyd arno, fel yr adroddir yn Meth, Cymru, cyf. iii., t.d. 272. Cawn i un o'r enw William Jones, oedd mewn gwasanaeth gyda Mrs. Ffoulkes, yn Sirior, fod yn gynorthwy nid bychan i'r Ysgolion Sabbothol hyn ar eu cychwyniad. Yr oedd anuwioldeb yr ardaloedd hyn yn ei flino'n fawr. Dyn distaw, tawel, ydoedd William Jones, yn gallu darllen ei Feibl yn dda, ond heb feddu llawer o ddawn, ac eto nid esgeulusai y ddawn oedd ynddo. Caed colled fawr ar ei ol pan y symudodd oddi yma i'r Bontuchel.