Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/62

Gwirwyd y dudalen hon

ninau gyda'r gwaith, yn nesaf at ein camymddygiadau fel crefyddwyr, ydyw prinder pregethwyr; gan hyny, yr ydym yn deisyf ar ein brodyr yn y weinidogaeth ymweled â ni mor fynych ag y gallant, cany trwyddynt hwy yr ydym yn disgwyl cael ein hadeiladu."

Ymddangosodd yr hanes uchod ymhen ychydig gyda dwy flynedd ar ol agoriad y capel; ac wrth ei ddarllen, anhawdd peidio sylwi ar ddistawrwydd yr awdwr am y blaenor, neu y blaenoriaid oedd yma pan sefydlwyd yr eglwys. Dywedir. mai Robert Roberts, y Geuffos, Llanddulas, oedd y cyntaf a alwyd i'r swydd: ac nid anhebyg, oherwydd y distawrwydd yma, nad efe oedd Glan Dulas." Pan godwyd capel Beulah, Llanddulas, symudodd ef yno, a bu yn flaenor defnyddiol a gweithgar yn Beulah hyd ddiwedd ei oes. Ceir rhagor o'i hanes ef ynglyn a'r achos yn Llanddulas.

Yn fuan wedi codi y capel, daeth gwr o'r enw David Owen, o gyffiniau Gwytherin, i fyw i Ben y Cefn, a chafodd ei alw yn flaenor yn Llysfaen. Yn ol a gofiwn ac a gasglwn am dano ef, yr ydoedd yn wr tra ffraeth. Pan yn siarad, gwnai hyny mewn tôn lled uchel Meddai ddawn gweddi hapus. Yr oedd ol darllen a myfyrio llawer yn Llyfr y Psalmau arno. Nis gellir dyweyd ei fod yn dduweinydd cryf, ond gallai ddefnyddio ei wybodaeth yn dra effeithiol pan yn arwain yn y cyfarfod eglwysig. Bywiogrwydd a byrdra oedd yn ei nodweddu, ynghyd a ffyddlondeb, a phrydlondeb. Bu ei dy yn llety gweinidogion y Gair am flynyddau. Gan fod Pen y Cefn yn sefyll rhwng Llysfaen a'r Bettws, yr oedd yn gyfleus i'r pregethwyr ar eu ffordd o'r naill le i'r llall. Oddeutu y flwyddyn 1865, symudodd ei aelodaeth i'r Bettws, a dewiswyd ef yn flaenor yno hefyd. Yn 1870, aeth i bentref y Bettws i fyw, ac yno y bu farw ymhen ychydig flynyddoedd, wedi cyrhaedd oedran teg.

Blaenor arall yn yr adeg yma oedd John Evans, Bryniau Cochion,—gwr rhagorol a defnyddiol. Symudodd oddi-