Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/67

Gwirwyd y dudalen hon

blaenoriaid a enwyd, sef Mr. Henry Lloyd, ac adeiladwyd arno ystafell yn gysylltiol a'r capel, yn yr ochr dde i'r pulpud, a drws dwbl (folding door) rhyngddi â'r capel, fel y gellir defnyddio yr ystafell a'r capel yr un adeg, pan y bydd angen am hyny. Maint yr ystafell yw 10 llath wrth 6. Cafodd y capel ei liwio, a'r eisteddleoedd eu glanhau yr un pryd. Y cynllunydd y tro hwn eto oedd y Parch. Thomas Parry, U.H.. Colwyn Bay, a'r adeiladwyr oeddynt Mri. Davies a Jones, Colwyn Bay. Traul o £250.

Wrth fwrw golwg dros y cyfnod maith yma, araf yw cynydd yr achos wedi bod. Gan fod yma yn 1836 o 60 i 70 yn yr Ysgol Sabbothol. disgwyliasid cynydd cyflymach; eto, os yn araf, y mae yn gynydd sefydlog. Ac yn ddiau. "y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw Duw Jacob."