Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/68

Gwirwyd y dudalen hon

BEULAH, LLANDDULAS.

GAN Y DIWEDDAR MR. THOMAS WILLIAMS, BRYNYDON, GYDAG YCHWANEGIADAU GAN Y GOLYGYDD.

ADEILADWYD y capel cyntaf i'r Methodistiaid yn yr ardal hon yn 1844—5, ar brydles o un mlynedd ar hugain, a phunt yn y flwyddyn o ground rent. Cafwyd cynorthwy rhad gan amryw o'r ffermwyr cymydogaethol i gario defnyddiau ato, ac felly nid oedd y draul ond oddeutu trigain punt. Wedi i'r brydles ddod i ben telid ardreth o bum' punt y flwyddyn; a gwnaed hyny am namyn un deugain mlynedd.

Y prif symudydd ynglyn â'r capel hwn oedd Robert Roberts, o'r Geuffos,—mab i'r gwr o'r un enw ac o'r un lle y coffeir am dano yn rhestr blaenoriaid Abergele. Yr oedd efe wedi cael mwy o fanteision addysg na'r cyffredin yn y dyddiau hyny; yn wr cadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn dduwinydd da. Efe am flynyddau oedd yr unig flaenor. Yn gydweithwyr âg ef yr oedd John Jones, o'r Bryngwyn, ger Plasnewydd: Robert Hughes, o'r Lodge, Tanyrogo: a John Hughes, Fforddhaiarn. Bu J. Jones a R. Hughes yn arwain y gân am flynyddoedd, y naill yn niffyg y llall. Y mae un arall na ddylid myned heibio iddi heb wneyd coffa parchus am ei henw, sef Mrs. Hughes, Ty Ucha; modryb chwaer ei fam i'r diweddar Barch. Thomas Gee. Dinbych. Yr oedd hi yn foneddiges wir grefyddol, wedi cael diwylliant uwch, ac yn rhagori mewn nerth meddwl ar y lliaws o'i chymydogion. Yr oedd hefyd yn dra haelionus a gwir ofalus am yr achos yn ei holl ranau. Yn y Ty Ucha