Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/78

Gwirwyd y dudalen hon

wasanaeth i'r achos, yn arbenig yn y cyfarfod eglwysig. Gwr coeth, urddasol, doeth, wedi cael addysg dda, oedd efe. Yr oedd yn un o'r efrydwyr hynaf yn Ngholeg y Bala, a bu cyn diwedd ei oes yn Llywydd Cymdeithasfa'r Gogledd. Yr oedd cael gweinidog felly mewn eglwys fechan yn llawer o galondid ac o nerth iddi. Cafwyd colled drom drwy ei symudiad ef oddiyma i Cotton Hall.

Fel y crybwyllwyd, daeth y brydles oedd ar y tir yr oedd y capel wedi ei adeiladu arno i ben tua'r flwyddyn 1864. Syrthiai y capel a'r ty cysylltiedig âg ef i ddwylaw perchenog etifeddiaeth Kinmel. Tynwyd y cwbl i'r llawr. Gwnaed yr un peth ag amryw-tua 10 neu 12-0 amaethdai a thai anedd yn yr ardal, er mwyn troi yr oll yn rhanau o barc Kinmel. Lleilaodd hyn boblogaeth yr ardal yn fawr. Dyma y rheswm am fod llawer o enwau tai a thyddynod yn hyn o hanes, y rhai nad ydynt mewn bod erbyn hyn. Collwyd y cwbl yn y parc. Diau fod perffeithio y parc yn fwy pwysig yn ngolwg ei berchenog nag oedd capel ac eglwys Ymneillduol. Gadawyd achos Gwaredwr y byd heb le i roi ei ben i lawr am ddwy flynedd; ac o ran y tir-feddianwr hwnw, buasai yn yr un cyflwr hyd y dydd hwn. Canlyniad hyn oedd symud y capel tua milldir a haner o'i le priodol a'r lle mwyaf cyfleus i'r boblogaeth. Am y ddwy flynedd hyny, fel yr awgrymwyd eisoes, ymgynullai y gynulleidfa a'r eglwys mewn ty a elwir" Y Sun." sydd ar ochr y ffordd rhwng Rhuddlan ac Abergele, heb fod ymhell oddiwrth gapel presenol y Morfa. Y blaenoriaid pan ddaeth yr eglwys i'r Sun oeddynt Isaac Hughes a John Jones, Ty Newydd (Tanybargod gynt). Ymadawodd Isaac. Hughes, fel y nodwyd, yn 1865. Gallodd yr eglwys fechan fyw felly rywfodd am ddwy flynedd, megis heb gartref. Nis gall erlidwyr ddiffodd y tân Dwyfol, er iddynt chwythu hyd eithaf eu gallu. Yr oeddid ar hyd y misoedd yn chwilio yn ddyfal am le i osod pabell Duw ar ei ddaear Ef ei hun,