Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/88

Gwirwyd y dudalen hon

EVAN WILLIAMS, GAINGC BACH, a fu yma yn flaenor am tua 18 mlynedd, ac a fu yn ffyddlon ac ymdrechgar dros ben gyda'r achos, pan oedd galwad uchel am yr egni hwnw. Rhoddodd lawer o amser ac arian a llafur i'r deyrnas. Treuliodd flynyddoedd olaf ei oes fel aelod o'r eglwys yn Abergele. Daeth ei ddyddiau ef i ben, Gorphenaf 29, 1895, yn 69 mlwydd oed.

JOHN JONES, Y SHOP, at yr hwn y cyfeiriwyd eisoes, oedd. ddarllenwr helaeth, yn cymeryd dyddordeb mawr mewn ymddiddanion am bynciau crefydd, ac athrawiaethau duwinyddiaeth, yn athraw ymchwilgar a medrus, ac yn ffyddlon yn yr holl dy. Bu farw yn 1899, yn 77 mlwydd oed.

EVAN WILLIAMS, GLAN LLYN, a ddygwyd i fyny yn yr eglwys, ac a lynodd yn gyson wrth grefydd ar hyd ei oes. Bu yn ddarllenwr helaeth yn more ei ddyddiau; a phan ddewiswyd ef yn flaenor, gwasanaethodd gyda llawer of flyddlondeb. Gorphenodd ei yrfa yn y flwyddyn 1907.

ELIAS ROBERTS, GAINGC FAWR, a wasanaethodd lawer ar yr achos crefyddol mewn gwahanol ffyrdd am oes faith, ac a barhaodd felly hefyd tra y bu yn y swydd o flaenor. Mae ef a'i deulu wedi rhoi llawer o wasanaeth i'r achos yn y lle.

Y brodyr sydd yn y swydd yn bresenol ydynt—John Williams, Tyddyn Isa'; Hugh Edwards, Gainge Bach; Elias Owen, y Groesffordd; Thomas Jones, Bryn Tywydd; a Lewis Evans, Jericho. Heblaw fel blaenor, y mae Mr. Owen o wasanaeth mawr i ganiadaeth y cysegr yn y lle.

Bu y gweinidogion canlynol yma mew n cysylltiad swyddogol â'r eglwys:—

Y diweddar BARCH. WILLIAM ROBERTS, a ddaeth yma o ardal Salem, gerllaw Llanrwst, yn 1854, ac yr oedd efe yn