Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/89

Gwirwyd y dudalen hon

cynal ysgol ddyddiol ynglyn â'r capel, yn gystal ac yn bugeilio yr eglwys. Ymadawodd oddiyma yn 1860 ar alwad eglwys Abergele, eithr parhaodd i ddyfod i Dywyn am tua to mlynedd i'r cyfarfod eglwysig, a chyfarfodydd yr ieuenctyd, yn gystal ag i fwrw golwg dros yr holl achos. Yr oedd efe yn wr o feddwl cryf, ac o lawer o athrylith.

Bu y PARCH. LEWIS ELLIS, y pryd hwnw o Ruddlan, tua'r blynyddoedd 1872 a 1873, yn dyfod yma am lawer o fisoedd i'r seiat a chyfarfodydd eraill, a bu o wasanaeth mawr i'r achos mewn argyfwng peryglus.

Y PARCH. JONATHAN JONES, yn bresenol o Lanelwy, a ddaeth yma yn nechreu Ionawr, 1874, ar alwad yr eglwys hon ac eglwys y Morfa, ac a barhaodd ei fugeiliaeth yn y ddau le am 9 mlynedd a 4 mis, sef hyd ddiwedd Ebrill, 1883. Yr oedd Methodistiaid y Tywyn newydd fyned trwy brawf tanllyd ar yr adeg hon. Tua'r flwyddyn 1872 yr adeiladwyd yr ysgoldy gwych sydd yno ar gyfer plant yr ardal, ac yn ystod misoedd yr haf, 1873, yr agorwyd yr Eglwys hardd a chostus sydd dros y ffordd o'r capel. Nid oedd eglwyswyr bron o gwbl yn y gymydogaeth yn flaenorol. Yr oedd bron holl drigolion yr ardal yn dilyn moddion gras yn y capel Methodistaidd. Nid oedd yma, gan hyny, ddim eglwyswyr i fyned i'r Eglwys newydd. wych. Dygwyd dylanwadau cryfion o amryw fathau i hudo y Methodistiaid i wadu neu werthu eu Hymneillduaeth; ac am haner diweddaf y flwyddyn 1873 bu yr hudoliaeth yn lled effeithiol. Collodd y Methodistiaid lawer of deuluoedd, a rhai o brif ffermwyr y gymydogaeth,—aethant i'r Eglwys, amryw o honynt oedd yn aelodau eglwysig gyda y Methodistiaid, ac eraill yn wrandawyr. Yr oedd yma ryw dyb yn ffynu ar y pryd yn yr ardal fod yn rhaid i rywrai o'r Methodistiaid fyned i'r Eglwys neu adael hono yn wag. Yr