Tudalen:Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cob Resymol)(Cymru) 2020.pdf/1

Gwirwyd y dudalen hon

Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020

2020 dccc 3

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddiddymu amddiffyniad cosb resymol yn y gyfraith gyffredin mewn perthynas â rhoi cosb gorfforol i blentyn sy’n digwydd yng Nghymru; ac at ddibenion cysylltiedig. [20 Mawrth 2020]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

1Diddymu amddiffyniad cosb resymol yn y gyfraith gyffredin

(1) Mae amddiffyniad cosb resymol yn y gyfraith gyffredin wedi ei ddiddymu mewn perthynas â rhoi cosb gorfforol i blentyn sy’n digwydd yng Nghymru.

(2) Yn unol â hynny, ni chaniateir cyfiawnhau rhoi cosb gorfforol i blentyn sy’n digwydd yng Nghymru mewn unrhyw achos sifil neu droseddol ar y sail ei bod yn gyfystyr â chosb resymol.

(3) Ni chaniateir ychwaith gyfiawnhau rhoi cosb gorfforol i blentyn sy’n digwydd yng Nghymru mewn unrhyw achos sifil neu droseddol ar y sail ei bod yn gyfystyr ag ymddygiad derbyniol at ddibenion unrhyw reol arall yn y gyfraith gyffredin.

(4) At ddibenion yr adran hon, ystyr "cosb gorfforol" yw unrhyw guro (yn yr ystyr sydd i "battery" yn y gyfraith gyffredin) a wneir fel cosb.

(5) Yn adran 58 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31) (cosb resymol)—

(a) yn is-adran (1), ar ôl "battery of a child" mewnosoder "taking place in England

(b) yn is-adran (3), ar ôl "Battery of a child" mewnosoder "taking place in England", ac

(c) mae’r pennawd yn newid i "Reasonable punishment: England".