Tudalen:Dewi Wyb (Ab Owen).pdf/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Blynyddoedd ei nerth oedd 1805 hyd 1820, pymtheng mlynedd disglair rhwng un mlynedd ar hugain o godi ac un mlynedd ar hugain o fachlud. Yn 1805 daeth awdl "Molawd Ynys Prydain," yn 1811 awdl "Arwyrain Amaethyddiaeth", yn 1819 awdl "Elusengarwcli," ac yn 1820 awdl "Cyfarch y Gweithwyr" Fflachiadau disglair, gwreichion byw, sy'n ein tynnu at Ddewi Wyn. Yr oedd i’w feddwl nerth angerddol; a chollodd lywodraeth ar y nerth hwnnw tua diwedd ei oes; gorthrymwyd ef, gorff ac enaid, gan fflangell ei athrylith ei hun. Cyhoeddwyd gwaith Dewi Wyn, "Blodau Arfon," gan Edward Parry yng Nghaer yn 1842; cyhoeddwyd atodiad gan H. Humphreys yng Nghaernarfon, yn 1869, dan olygiaeth Cynddelw. A chasglodd Myrddin Fardd bob pill a rhigwm a hanes oedd yn weddill i’r Llenor yn 1896.

OWEN M. EDWARDS.
Rhydychen.