Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/74

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dy eiriau nerthol, rhyfeddol foddion,
Gwiwrwydd eu tremynt, megys gyrdd trymion,
A chwilfriwiasant yn wachul friwsion
Wag dybiau anferth a dinerth dynion,
Gwnaethost rai drwg annoethion—yn glodwych
War ddwysgu degwych wir ddysgedigion.

Dos rhagod, cei fod yn fawr—ac enwog,
Dy gynnydd fo'n ddirfawr,
Da gweddai dy egwyddawr
Gael lle'n holl gonglau y llawr.

O hyn allan yn hollawl—llafuria
A lleferydd nerthawl;
Dy arwyddair fo'n dreiddiawl
Rhyddid i'r byd, hyfryd hawl.

Dynion yn gyffredinawl—fo er gwell,
Heb enw o ddichell, yn byw'n heddychawl:
I Dduw'r hedd sydd wir haeddawl—o foliant,
Trwy wiwgu weddiant, boed clod tragwyddawl.

MYFYRDOD Y BARDD
YN EI 70 MLWYDD OED, 1850

DYGYFOR mae adgofion—olynol,
Lonaid fy meddylion,
Mal dw'r yn taflu aml dòn
Frigog, o'r dyfnfor eigion.

Para i redeg rai prydiau—'n ormodol,
Wna'r mud fyfyrdodau,
Mor bell a thymhor borau
Ieuenctyd a mebyd mau.