Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/75

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Golygaf, cadwaf mewn co '—y mirain
Dymhorau aeth heibio;
Ffur yw'r drych, a phair ar dro
Wneud i f'awen adfywio.

Ond agwedd enwedigol—y meddwl
Yw moddus arganmol
Lluosawg freintiau llesol
Ge's fwynâu flynyddau'n ol.

'Rwy'n cofio y ter amserau—dyddan,
A'r dedwyddawl oriau,
Cerddem yn nghyd i'r cyrddau—eglwysig,
Yn dorf unedig, dirfion eneidiau.

Llewychus gyfeillachau—yn gydwedd,
A gadwem am oriau;
Caem gyd yn hyfryd fwynhau
Da wyneb Duw a'i wenau.

Ymddyddan mewn modd addas—y byddem,
Er budd i'r Gymdeithas,
Am gyfoeth hardd—ddoeth urddas
Tragwyddawl, waredawl ras.


Ein llon ddybenion beunydd—oedd esgud
Addysgu ein gilydd,
Gweini er dwyn ar gynnydd,
Hoff waith, y gwan yn y ffydd.

Son am groes a mawr loesau—ein Iesu,
A'i aneisor glwyfau,
Oedd wledd werthfawr, glodfawr, glau,
Hynodawl, i'n heneidiau.