Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon
DILIAU MEIRION
AIL RAN.
—————————————
PRIODAS—GERDD
SIR ROBERT WILLIAMS VAUGHAN,

Barwnig, Nannau, ag ANNA MARIA Mostyn, Medi, 1802.
Cenir ar "Calon Derwen" (Heart of Oak.)

Offyddion a beirddion rai breinlon eu bryd,
Llinellwch benillion yn gyson i gyd,
I'r Marchog ardderchog aur-dorchog ar dir,
Gwr addwyn gwareddog pen Swyddog ein Sir,
Ein dyled sydd fawr mòr wiwlon a'r wawr,
Iawn eirio i'n blaenorydd gân newydd yn awr;
A'i briod ger bron lloer dyner lliw'r dòn,
Brig union bro Gwynedd fawr hynod ei rhinwedd
Prydferthedd fun lunïedd fwyn lòn;
Cantorion o hyd na fyddwch yn fud,
Arfeddyd wir foddol gwnewch seinio' n gysonol
Eu molawd yn frawdol un fryd.

Syr Robert ŵr hybarch ei gyfarch a gawn,
A'i ganmol wrth reol yn unol a wnawn;
Gwladgarwr rhagorol ufuddol yw fo,
O linach Fychaniaid pen breiniaid ein bro,