Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
ENGLYNION
A wnaed wrth syllu ar arwydd, (Sign) ar fur gwesty,
yr hwn a elwid “ Red Lion , ” ac ydoedd wedi
ei lunio yn hynod o annghelfydd.
Ai llun cath, ai ynte llun ci-neu lew ,
Neu lwynog, neu ddyfrgi,
Neu hwch dòrog yn crogi
Ar wal fawr а
a welaf fi ?
Neu hyll, foel, deryll fûl deuryw ----gwrthyn,
Neu goeg erthyl lledfyw ?
'Dall un brutiwr, bostiwr byw .,
Byth dd'wedyd llun beth ydyw !!
Llaw anhydyn y lluniedydd - anoeth ,
Oedd hynod annghelfydd ;
Gwael ydyw - pawb drwy'r gwledydd
A'i gwelo, i'w feio fydd.
ENGLYNION
O glod i " GLWB WASHINGTON
neu y Clwb Du, " yn Nolgellau.
6
Clo heb dwyll yw y .“ Clwb Du ”-i attal
Diotwyr yn Nghymru,
Rhag pechod o feddwdod fu
Am oesoedd yn gormesu.