45
Boed iti'n fynych dan y sér
Gu addas arfer gweddi,
A disgwyl wrth dy Dduw'n ddiball,
Fel morwyn gall heb golli ;
O hyn y daw i ti bob awr
Yn ddinam fawr ddaioni.
Ffarwel fy anwyl Lora fwyn
Diweniaith forwyn dyner,
Bendithion fyrdd ar dir a môr
A gaffych o'r uchelder,
A phan orphenych daith y llawr
Cael coron fawr cyfiawnder.
ENGLYNION
o ddiolchgarwch i Miss ANNE JONES, Penycaerau , ger
Aberdaron , am ei ffyddlondeb yn casglu enwau
tanysgrifwyr at “ Ddiliau Meirion ."
Cyrhaedd i Bencaerau — yn wiwlwys
A wnelo'm llinellau,
I dỹ Ann sy'n llawn doniau ,
Yn Lleyn bell - y llawen bau .
Rhwydd -wych i Ann y rhoddaf - ddïolwch ,
Mawr ddyled sydd arnaf ;
Digellwair hyd y gallaf,
Coffau ei rhinweddau wnaf.
Ni fu fenyw yn Eifionydd — na Lleyn,
Mewn un lle ei helfydd ;