Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
47
Ymwriaist yn llanc mirain—dan y ser
Hyd yn saith ar hugain ;
Bydd fyw eto'r Cymro cain ,
Drwy degwch - dair a deugain .
HIR A THODDAID
I Mr. David Jones, ( Dewi Rhagfyr.)
Cyfaill dihafal, dyfal, a difyr,
Da, a rhywiogfwyn yw “ Dewi Rhagfyr ; "
A gwir hyfrydwch e gâr ei frodyr,
Fe rydd enaint, a nard i farddonwyr,
Mab astud yw'n mhob ystyr - synwyrol,
Moesgar ei reol yn mysg goreuwyr.
DAU ENGLYN
I MR. HUMPHREY JONES, Caerlleon .
Rho'i parch i Humphrey ap Io'n—a ddylai
Gwyddelod, a Saeson ;
Rhodded y Cymry 'n rhwyddion
Iddo hyd arch, barch o'r bon .
Mynwesol gymwynasydd — da, ydyw
A didwyll or chwylydd ;
Hwyrach mai fe yn hoyw -rydd
Etto ar Gawr yn Faer a fydd.