ANERCHIAD
I Fab a thair Merch, Mr. a Mrs. EDWARDS,
Penygeulan , Llanuwchllyn.
Gwelais yn
Mhen у Geulan ” -dawelaidd
Barchus deulu mwynlan ;
Siriol rieni seirian,
A phlant, serchog, gleiniog glân.
Owen Edwards a nodaf,—y cynfab
Cu iawn -ferth yn flaenaf ;
A mydru cân os medraf
O glod i'r genethod, gwnaf.
Mair weddaidd dymer wiwddaa'i chroenwen
Chwaer anwyl Eliza,
A Marg'red dduwiolgred dda,
Gwylaidd dair seren Gwalia.
Brawd tirion , rhadlawn a rhydd ,—doeth arawd ,
A thair o chwiorydd,
Rhai trefnus, destlus bob dydd ,
I'w gweled efo 'u gilydd.
Hoff wir ddidwyll hyfforddiadau - addas
Ro'ir iddynt yn forau
Gan eu Mam , yn ddiamau,
A'u Tad hawddgar, clodgar, clau.
Boed heddwch a byd diddan ,-- dialaeth
I'w dilyn yn mhobman ;
Ac hefyd uwchlaw 'r cyfan
Y nef, aur haddef i'w rhan .