Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
ENGLYNION BEDDARGREIFF.
I Mr. LEWIS EDWARDS, (Eos Twrog.)
Yma gorwedd myg wron - cywirddoeth,
Pen cerddor gwlad Meirion ;
“ Eos Twrog," was tirion ,—oedd flaenor
Yn maes egwyddor y miwsig-yddion .
Arall, ar fedd Tad a'i Ferch.
Gwel ein bedd, dyfnfedd ni'n dau ,-gwna gofrestr,
Gan gyfrif dy oriau ;
Daw dwthwn y d'oi dithau ,
Yn fud i'r un bydrud bau.
Er ymdaith rhan faith o'r hen fyd ,-a gweled
Ei gilwg a'i hawddfyd ;
O’i dwrf a'i gynhwrf i gyd
Gorwedd rwy'n awr mewn gweryd .
Fe orwedd fy rhan farwol — yn y llwch
Mewn lle rhagderfynol ;
Hyd amser daw’m Ner i'm nol
Ar g'oedd i'r farn dragwyddol.
Ystyriwch, gwelwch i gyd ,-myfyriwch
Mòr fyr yw eich bywyd,
A choeliwch - rhaid dychwelyd
Oll i'r bedd er allo'r byd.