62
Addien Wenynen anwyl - gu -iawn fodd
Gywain fêl i'w phreswyl ;
Gwyr yr adeg - hardd -deg hwyl
I'w gyrchu, a gwna'i gorchwyl.
Casglu mêl fydd prif elfen - y wisgi
Wiw esgud Wenynen ;
Arddelwa bob îr ddeilen
Dros y byd heb drais o'i ben.
BEDDARGRAFF CARNHUANAWC .
Daearwyd llyw awdurol - cry'n heniaith
Carnhuanawc ddoniol,
Eithr ei waith-athraw ethol
Oesau fyrdd a saif o'i ol .
Carnhuanawc ! gwron hynod - gwelwch
Gof-golofn ei feddrod -
Athraw glan-ga'i uthr wiw glod,
Urddasol , orwedd isod.
Ow ! llawr gweryd yw lle'r gwron , -hynod
Carnhuanawc dirion ;
Profwyd mai ef oedd prifon - perffeithiaf
A'r hynawseiddiaf o'r Hanesyddion.
Doeth ofydd hyd eithafion - gwireddau
Y gwreiddiol hanesion ;
Llyw, a noddwr llenyddion
Ydoedd ef-Cenadydd lôn.