Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
AR BRIODAS
MR. JOHN REES, a Miss GWEN JONES, Dolgellau.
Gwen, a John, dirion fo'n dda — ymlwybro
Mal Abram a Sara,
Heb un artaith , blinfaith bla
I'w gorfod hyd eu gyrfa.
I TALHAIARN .
Talhaiarn Cadarn fardd cu ,—yn Llundain
Sy'n llondes gartrefu ;
Ni wthiwyd yno i nythu
Gwr 'r un ddawn er G’ronwy Ddu.
Mae'n llyfndeg, ddwysdeg bryddestydd — doniol,
A dianaf awdlydd,
Ac hyawdl eiliwr Cywydd,
O iawn ryw , a'i awen rydd.
Dyn i bawb a dawn bybyr—ydyw Tal ,
O waed teilwng awdwyr ;
Mab astud yn mhob ystyr
Wrth sodlau'r gorau o'r gwyr.
I BLAS DOLGYN ,
Pan aeth ar Dân yn 1845 .
Och ! drymed , gweled Dolgyn !-ddoe ydoedd
Dda adail gyferbyn ;