Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/72

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ENGLYNION

I Goffa am y diweddar Barchedig John JONES, M.A ,
Borthwnog, ger Dolgellau.

Trymion drallodion llidiog - a welir
Yn nheulu'r Borthwnog,

Màn gynt y clywid mwyn gôg
Yn eilio, sy'n lle niwliog.
Angau a'i saethau sythion - anelodd
Ein hanwylaf wron,

Llwyr wanwyd a brathwyd bron
Llyw naw -radd y llenorion .
Porth llon i feirddion a fu - a'u tarian

I'w teraidd gyfnerthu,
Pob gradd ar ol ei gladdu,
O'u gwirfodd amdôdd mewn du.
Colled oedd fyned i'w fedd - yr ynad
Tirionaf yn Ngwynedd ;
Carai weld mewn cywir wedd,
Gwawr hynaws teg wirionedd.
Mae'r gweiniaid yn mawr gwyno,-ni allant
Ei ollwng yn angho' ;

Gwae iddynt fu ei guddio,
Yn min yr allt, mewn mân rô.

Braw i'w dyner briod anwyl - wiw -lwys
Oedd weled ei arwyl ;

Ciliodd ei gwar gydmar gŵyl,Nawsaidd, i gadw noswyl.