ENGLYNION
Ar briodas y Parch. E. GRIFFITHS, Llanegryn, Rhag.
27ain , 1837. (Y briodas gyntaf a weinyddwyd yn
nghapel yr Annibynwyr yn Nolgellau ).
Priodwyd, unwyd heb anair - deuddyn
Yn eu dyddiau diwair ;
Gweinidog enwog y gair,
A morwyn yn cael mawrair.
Gweinyddiad gogoneddol-a gawsant
Yn gyson â rheol,
Heb addurn trefn Babyddol,
Na dim o'i gau ffurfiau ffol.
ETO
Ar briodas Mr. Evan JONES, ( Ieuan Ionawr.
Iawn unwyd Ieuan Ionawr - wr hyawdl
A rhian bur glodfawr ;
Dau oeddynt ddoe a diddawr
Dan y nef, ond un yn awr.
Rhwydd hynt fo iddynt hyd fedd — i droedio
Dirwydawg ffyrdd rhinwedd ;
Pelydr clau, rhadau lôr hedd
Tywyned i'w ty annedd.
Cyd-dynu o reddf tan yr iau — wnelont
Yn ol eu hamodau ;
Pur o hyd b'ont yn parhau
I wneud eu haddunedau.