77
Ond ei gyfrinach rydd heb gêl
I bawb a wnel gyfiawnder.
Melldith yr Arglwydd oddi fry
A drig yn nhŷ'r annuwiol ;
Ond ei fendithion sydd yn llawn
Yn nhrigfa'r cyfiawn grasol.
Diau fe watwar Duw'n ddirus
Bob dyn gwatwarus ynfyd,
A'i ras i'r gostyngedig rydd,
A mawr a fydd ei wynfyd.
Y doethion oll a gânt yn
ddir
Feddianu gwir anrhydedd ;
Ond i'r ynfydion erchyll fraw ,
A gwarth a ddaw'n ddiddiwedd.
ESAU LII . 13 .
Fy ngwas a lwydda medd Duw Ior,
Teyrnasu a wna o for i for,
Fe godir i ogoniant llawn,
A bydd yn ddyrchafedig iawn.
Er mor ddirmygus oedd ei wedd
Cyfodi wnaeth yn fyw o'r bedd ;
Esgynodd fry i'r orsedd fawr,
Yn frenin nef a daear lawr.
Daw etto ar gymylau'r nef
Pan ry'r archangel uchel lef
I farnu pawb o ddynoliyw ,
Y mawr a'r bach, y meirw a'r byw.
G 2