Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Garthyngharad, a nifer ereill ar wahanol lechweddau y bryniau sydd yn amgylchynu y Ddôl. Yn y dref ar un cyfnod y bu Owen Glyndwr yn cadw ei Senedd, ond y mae olion yr adeilad hwnw bron wedi diflanu. Adeilad pwysig ynddo yn awr, ac a welir yn ein darlun o'r dref, ydyw Ysgol Dr. Williams, sefydliad addysgol i enethod, a godwyd o arian a ewyllysiodd Dr. Williams yn gyntaf i dref Caernarfon, ond oherwydd claiarineb y trefwyr yno a gymerwyd i fyny yn aiddgar gan drigolion sir Feirionydd, ac a sefydlwyd ar lan yr Wnion. Gallwn sicrhau ein darllenwyr nad oes anad le yn Nghymru mor doreithiog mewn golygfeydd rhamantus, hanesyddiaeth ddyddorol, a swyn-gyfaredd—canys onid. yn yr ardal hon y mae lle yr aur?—na'r doldir hyfryd ar ba un y saif Tref y Cyll.

Gwnaed adgyweiriadau pwysig yn y lle Meh., 1830, gan Syr R. Vaughan, gydag adeiladu heol o'r enw Eldon—terrace, ac y mae ereill wedi codi'r cynllun, a mynu heolydd o dai annedd glanwedd a theg, ag sy'n addurn gan gelf a gwybodaeth. Ceir dwy farchnad wythnosol yma ar ddyddiau Mawrth a Sadwrn, a chynhelir 14 o ffeiriau, dyddiadau pa rai, a chyfnewidiadau y rhai hyn, os digwydda hynny, a chwilia'r ymwelwr yn dra buan o'n Halmanaciau. Cynhelir Sesiwn yr haf, Chwarter Sesiwn y Pasg, a Gwyl Mihangel, tros y sir, yn y lle, ond fel rheol, ychydig a fydd nifer y rhai a brofir, ac aml heb un i'w ddwyn ger bron, yn y "Sesiwn wâg," am drosedd o unrhyw fath. Ymlapia'r dref o dan fynyddau uchel a bryniau ban; ar lethrau y rhai hyn y ceir coedwigoedd helaeth, yn llawn o adar gwylltion yn cadw'r cyngherddau goreu a fedd ein byd. Dyfrheir godreu pob coedfa gan yr Wnion, yr hon a chwardd wrth daflu ei phen ar fynwes ei chwaer—afon Maw, yn ymyl Llanilltyd, a'r hon afon eto sydd y darlun cywiraf o sarph, yn ei cham-ystum a'i thröadau aml a sydyn. Naid hon allan trwy groen daear Trawsfynydd, ac a ymwylltia i lawr trwy'r Ganllwyd. Odditan y Pistylloedd ymferwa'r Cain iddi. Yn narnau ucha'r Ganllwyd, yn Nglyn Eden, neidia'r Eden i'w mynwes, yna rhed yn llawn gwenau trwy Waelod y Glyn, pan y cofleidir hi wrth Lanilltyd gan yr Wnion. Am brydferthwch hyhi a'i gororau ystyrir y cyfryw yn nesaf at lenydd y Rhine, o un lle yn Mhrydain, a geiriau Syr R. C. Hoare am danynt yw, eu bod "yn anarluniadwy o arddunol a thlws." Mae pentref Llanilltyd fel ar haner tyfu,—fel plentyn a'r rickets arno, heb nemor i alw