Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sylw namyn ysgol ddyddiol ar yr ochr ddeheu i'r bont, siop a'r Eglwys blwyfol, ac i'w mynwent yr "hidlwyd llawer cenhedlaeth," a bu llawer o'i dyddiau yn cydredeg âg eiddo'r hen Fynachlog hybarch ac unig a orphwys draw ar ei chyfer, oddiwrth ddyddiau ei gweinidogaeth. Mae'r Eglwys yn gysegredig i Illtyd Farchog (Iltutus), fab Bicanys, o chwaer Emyr Llydaw, ac un a wnaeth enw iddo ei hun yn moreu oes am ei orchestion milwraidd. Brodor o Lydaw ydoedd, a daeth efo Garmon hyd Lys Arthur Frenin, ac yn fuan perswadiwyd ef gan Gatwg Ddoeth i arwedd buchedd grefyddol. Bu'n benaeth ganddo ar athrofa Côr Tewdws, yr hon a sylfaenwyd gan yr Ymherawdwr Tewdws (Theodosius). Dinystriwyd athrofa Llanilltyd Fawr (Caerworgorn) gan y Gwyddelod paganaidd, a dygasant Padrig gyda hwynt i'r Iwerddon, a dyma eu hapostol wedi hynny. Dygodd Illtyd welliant mewn garddu, yn lle ceibiau a'r aradr orsang dygodd gyfryngau mwy pwrpasol i aredig. Ystyrid ef yn noddwr pymtheg o eglwysi a chapeli. Yn ol y Cambrian Biography, gan Dr. W. Owain Puw, bu farw yn y flwyddyn 480 O.C., a chladdwyd ef, medd traddodiad, yn Bedd Gŵyl Illtyd," yn sir Frycheiniog. Coffheir ei wyl, yn ol Cressy, Chwef. 7. Mae golygfeydd teg ac amrywiaethol Llanilltyd hyd y Bermo yn brydferthwch byw dolydd, dyffrynoedd, y man fryniau bàn, a'r creigiau crôg y'nt mewn cystadleuaeth beunydd i ryfeddu'r ymwelydd o chwaeth bur.

Mae dyffryn Dolgellau yn un o'r rhai glanaf a phrydferthaf ag y gellir meddwl am dano, yn meddu ar olygfeydd ar ardaloedd pell hyd gyflawnder, yn eu cyfoeth, mawredd ac amrywiaeth. Mae rhodfeydd y fangre swynol yn rhamantus a niferog, a dyma a rydd gyfrif, yn ddiau, am y lluaws ymwelwyr a ddaw yma bob haf o wahanol fanau o'r deyrnas. Ystyrir plwyf Dolgellau yn 16 milltir o hyd a 4 o led; gwelir felly mai rhimyn cul ydyw, a llawer ohono'n fynyddig a bryniog, yn llawn o lwybrau defaid ac ebolion, a nifer helaeth o fân lynau ynddo, o ba rai y caiff y bobl dylodion gynud tân—mawn a choed. A'r weithred Seneddol, yn 1811, enillwyd chwe' mil o aceri o dir gwael ac ysgymun: ac y mae Dolgellau wedi cael y blaen ar bob lle arall am ei brethyn a'i gwlanen, neu y "Wê Gymreig," a bu cynifer a 1400 o ddynion mewn cyflawn waith a'r gorchwyl hwn. Cychwynwyd y gweithfäoedd yma cyn teyrnasiad lago I., a daeth eu rheoleiddiad i gyfrif pwysig yn nheyrnasiad Siarl I. Gwelwyd 130,000 o ysgubau, neu