Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth ymadael, a diau yr ysgyrnygai'r hen warder hynny o ddannedd oedd ganddo ar yr englynydd pert. Weler englyn :—

Hen wyneb Ieuan Ionawr.— o'm blaen
Saif i'm blino'n, ddirfawr
O'r hen dennyn melynwawr,
Gwag ei fol, efo'i hen geg fawr.

Nid gwiw i'r ymwelydd ddisgwyl taro'i lygaid ar unrhyw droseddwr o fewn i'r adail enfawr hon heddyw, na chlywed sŵn troed torrwr deddf yn myned i mewn na dyfod allan, oblegid y mae hen garchar Dolgellau, wedi ei hir wasanaeth, yn cyfrannu rhyddid, anrhydedd a mwynhad cyfreithiau Prydain Fawr, fel ag y gellid ei osod i lawr ar fap Meirion a'r byd.

Y Crocbren o'r nennawr a dynnwyd i lawr
Fe'i gwnaed gynt i grogi; yr — hen Hwntw Mawr,—
A weithian heb arswyd fe'i Codwyd mewn cell
Swydd newydd roed iddo, ddiguro, ddau well
Ni chrogir ym Meirion ddim lladron rhag llaw —
Na chreulon, annhirion lofruddion dan fraw
Alltudir hwy bellach fel bawiach y byd.
I ganol gwlad estron, yn gaethion i gyd.

Y PERIGLOR DY

A genfydd y teithydd am yr afon Wnion a'i phont, ar lethr chwith y ffordd a arweinia am y Bala. Mae'n dy^ cryf a rhagorol ei olwg, ac y mae wedi newid preswylwyr yn lled aml yn y blynyddoedd diweddaf. Yr un a fywiai ynddo yn ystod helynt y Parc ydoedd y diweddar Hybarch Canon E. Lewis (Deon Bangor, wedi hyn), ac efe oedd cysurydd ysbrydol Cadwalader Jones. Meddai Mr Lewis ar ysbryd lletygarol, a throdd allan draethawd ar yr Olyniaeth Apostolaidd, yn y fl. 1869, ond ei arddelwad wrtho ydyw "Offeiriad Cymreig" yr hyn i'm tyb i, a arwyddai nad oedd gan yr awdur fawr o gred yn ei nerth ei hun. Ceir rhifires fawr o esgobion, &c.yn ffurfio'r gadwyn, ond ugeiniau ohonynt yn bydredig trwyddynt. Cynnyrch y ddadl frwd a fu cydrhwng y Deon a'r diweddar Dr W. Davies (W.), Bangor, ar faes yr Herald Cymraeg, ym 1859, ar Uchel—Eglwysyddiaeth yw y llyfr uchod, a'r ddarlith ar y testun uchod a draddodwyd ym Methesda gan Mr Davies, ac a gyhoeddwyd yn llyfryn 6ch. Perigloriaeth yw y fywoliaeth, yn Archddeoniaeth Meirionydd, ac esgobaeth Bangor, ac yn nhadogaeth