Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ei syw fâd addurniadau—a'i harddwch
A urddant Ddolgellau:
Gwir ethol ragoriaethau
Ddyry'n blagur pur i'n pau.

Sylwer mai Williams haelwedd—ŵr anwyl,
Yw'r uniawn etifedd;
Caffed fyd hyfryd a hedd
I'w einioes yn ei annedd.

A'i seirian deulu siriawl—hynawsaidd,
Fo'n oesi'n grefyddawl,
Ac esgyn wed'yn i wawl
Cain wiwfyg Gwynfa nefawl.

BRYN Y GWIN

sydd annedd urddasol a saif ar lecyn tra dymunol gerllaw i'r dref. Bu y plas hwn yn gartref i amryw deuluoedd o nôd uchel, ac yn neillduol i'r diweddar H. Reveley, Ysw., un o brif ynadon swydd Feirion, yr hwn a fu farw Tach. 9, 1851, yn 79 mlwydd oed. Trwy y boneddig hwn y daeth Reveley yn gyfenw yn nheulu Bryn y Gwin, yr hwn a briododd â Jane, ferch R. H. Owen, Yswain, o Fryn y Gwin. Ganwyd i'r ddeuddyn hyn H. J. Reveley, Ysw., ac Is-gadben Dirprwyol swydd Feirionydd, ac Uchel-Sirydd yn 1859. Priododd ei gyfnither Siân, ferch Agernon Reveley, Ysw., a wasanaethai yn Bengal. Disgynai o du ei fam o Lewis Owain, y barwn a lofruddiwyd gan Wylliaid Cochion Mawddwy, ac o du ei dad o'r Perciaid, gynt duciaid Northumberland, y Selbys, yr Ordes, y Burells, a'r Miltfords, o Gastell Mittford, ac o'r Greys, o Gastell Chillingham. Dywed achau y Reveleys, y gallant trwy y Mowbrays, duciaid Norfolk, a'r Plantagenets, olrhain eu disgyniad o'r teyrn Iorwerth I., treisiwr y Cymry a'u gwlad! a thrwy Marged ei wraig, ferch Phylip, y "calon-galed," Brenin Ffrainc. Mae ein gofod yn rhy brin i ddilyn achau y gŵr enwog hwn trwy Owain Glyndwr, Madog Foel, y Pulestoniaid, hyd Annie Clara, a briododd H. Llwyd Williams, Ysw., meddyg a heddynad