Y FONWENT NEWYDD A'I BEDDARGRAFFAU.
I hoffydd llên y fonwent, ac i un a gâr rodio'n fyfyriol yn mhlith y beddau gan ystyried breuolder bywyd ac ansicrwydd dyddiau dyn i fyw, dichon y bydd y beddargreiff canlynol yn at-dyniad digonol i rywun i dd'od i "erw Duw" am fyfyr a thawelwch. Agorwyd y corphlan hwn yn y flwyddyn 1815, ac er hynny mae rhif y lladdedigion yn llu mawr o dan draed teyrn marwolaeth.
(Tu Dwyreiniol.)
BEDD DAFYDD IONAWR.
Bu farw Mai XII.,
MDCCCXXVII.
Ei Oedran,
LXXVII.
(Tu Gogleddol.)
M. S.
Bardi Christiani
Ob. A.D. MDCCCXXVII.
Aetat Suae LXXXVII.
Ddarllenydd, pan sylwi ar fedd Dafydd Ionawr gelli fod yn sicr i ti edrych ar fangre a geidw weddillion un o feib hynotaf yr Awen Gymreig hen lanc a fu "tros ei ben a'i glustiau" mewn cariad à rhian dêg unwaith, ond a siomwyd ynddi, ac un a ddibrisiai gyfoeth a helyntion masnach i ymhwedd â'r Awen (hon fu ei dduwies bellach), a dyddorol iawn ydoedd ei weled ar lanau'r Wnion yn dra mynych yn cyflawni ei gampau,-lluchio ei ffon a neidio fel gwallgofddyn, pan ddygai greadigaethau newyddion, mewn llên a barddas ar fyrddau'r byd. Cofir ei "hearty laugh," a phan ddisgynodd y "tân sanctaidd" ar ei ben, un tro, anghofiodd ei hun ar lwybr peryglus, a lawr ag ef i ddyfroedd yr afon, yr hyn a'i cadwodd ar dir gwell a phellach o'r Wnion yn y dyfodol. Dewi Wyn a'i galwai'n "hen ddyn trwynsur," am na chawsai dderbyniad i mewn