Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w dŷ a chroesaw ganddo, pan alwodd âg ef yn Nolgellau; ac nid oedd J. Jones, Glanygors, werth botwm corn gan D. Ionawr oherwydd ysgafnder ei awen. Cyhoeddwyd prif waith ei oes—Cywydd y Drindod, yn 1793, a chrwydrodd trwy chwe' sir y Gogledd mewn "sporting jacket" lâs, laes, gyda llogell anferth i gadw ysgrif o'r gwaith mewn copperplate, fel yr ysgrifenai ef, a het a chantel lydan, a ffon anferth yn ei law—un na fuasai undyn yn ddiolchgar o gael ei fesur â hi. Ond er ei holl lafur ni chafodd ond 52 o enwau am 53 o gopïau—dim ond 13 allan o sir Feirionydd! tra y gwerthasai Twm o'r Nant 2000 o "Gardd o Gerddi," ychydig amser cyn hynny. Ei aflerwch mewn llawer dull a modd a barodd ei golled hon. Cyfarfyddodd â dau dro trwstan yn Llanelwy: camgymerodd Esgob Bagot am un o'i wasanaethddynion, a sathrodd droed y prelad yn y drws, yr hyn a surodd y clerigwr fel na roddodd ei enw yn danysgrifydd at ei lyfr. Nid ystyriai fod yr un o offeiriaid ei oes yn werth eu gwrando, a hynny, mae'n ddiameu, ar gyfrif eu cam—fuchedd, canys Eglwyswr ydoedd ef; ond gwrandawai gyda blas ar John Elias, Christmas Evans, a Charles o'r Bala.

Gwledd frâs i galon ac ysbryd Dafydd Ionawr ydoedd yr englyn canlynol:—

Caed blodau gorau ac aeron—gynau
Yn ein Gwynedd ffrwythlon:
Ganwyd Ionawr mawr Meirion
Yr un mis a Gronwy Mon.

"Ar gof—golofn Dafydd Ionawr," medd Cell Meudwy (Elis Owen, F.S.A., Cefn-y-meusydd), "y ca'r darllenydd yr englyn canlynol:—

Dafydd Ionawr, mawr fydd Meirion—yn hir
lawn, herwydd ei meibion ;
Y Bardd oedd fardd i feirddion,
I goffhau ei fedd gaiff hon.#

Hefyd, toddeidiodd Hwfa Môn ac ereill yn rhagorol am dano. Cyhoeddwyd holl weithiau'r bardd yn gyfrol dlôs, yn 1851, dan