iaid hyn, a dygid hwy yn ddiymdroi i'r drochfa dan floedd a chrechwen yr erlidwyr. Eu cario ar "ystol" a wnelid yn Môn ac Arfon yn yr oes o'r blaen, ond eu bedyddio "tros ben a chlustiau" a wneid yma, a byddai'r trochedig wedi haner ei foddi cyn y cai allan o ddwylaw ei farnwyr! A'r englyn canlynol bygythid y gêr gleplyd â'r gadair, gan y bardd,—
Y gwragedd rhyfedd eu rhôch—ysgeler,
Ysgowliwch pan fynoch:
Eich bwrir a'ch bai arnoch,
Gwedi'r gair, i'r "Gadair Goch."
Bu y Bedyddwyr yn trochi eu deiliaid yma wedi hyn.
YR YSGOL GANOLRADDOL.
Saif hon ger Tylotty'r Undeb (Hugh Roberts), a'r Ysgol Frutanaidd (O. O. Roberts), ac ar lethr iach a dymunol. Gwariwyd. £2,500 arni, a rhif ei hysgoleigion yw oddeutu 90. Ei hathraw yw H. Clendon, M.A.
ABBATTY'R CYMER,
ond a elwid gan y werin yn "Abbey'r Faner." Eir i hon trwy ffordd Llanilltyd[1] yn hylaw a hwylus gan ddyn dyeithr, ond i fyrhau y daith, pe äi'r ymwelydd heibio'r Ysgol Genedlaethol (J. James, Ysgolfeistr), y Periglordy, Penarlag, a chymeryd y llwybr ar y chwith iddo ar uchaf yr allt elai i lawr hyd ati, gan dori milltir, agos, ymaith o'i siwrnai. Saif y Fonachlog oddeutu milltir a thri chwarter trwy'r brif—ffordd o Ddolgellau, a haner milltir o Lanilltyd. Sylfaenwyd hon yn y flwyddyn 1200, gan Llewelyn ab Iorwerth Drwyndwn, medd Tanner yn ei Notictia Monastica, tra y dywed eraill mai yn O.C. 1198, y bu hynny, gan Meredydd a Gruffydd, meibion Owain Gwynedd. Perthynai i'r
- ↑ Yn ol Mr. Wynne, o Beniarth, yn ei History of the Parish of Llanegryn, perthynai perigloriaeth a buddianau y lle hwnw a Llanilltyd a Llanfachraith i Fynachlog y Cymer; a Browne Willis a Dugdale a ddywed fod degymau y plwyfi uchod yn daladwy i'r unrhyw.