castell; ond Llewelyn a anfonodd fonach o fonachlog Cymer i daflu trem ar helyntion y câd-gyrchiad; a'r castellwyr pan welsant ef a aethant allan gyda brys i ymddiddan âg ef parthed tynged y Tywysog Llewelyn, yntau a'u hatebodd hwynt iddo weled Llewelyn mewn diffynle islaw, yn galonog, ac yn disgwyl am nifer ychwan- egol o filwyr ac adnoddau rhyfel. Gofynodd y milwyr drachefn a allai y marchogion fyned i'r gors ddywededig gyda diogelwch, pan yr atebodd y monach fod Llewelyn wedi tori'r bont, rhag eu rhuthriad hwy a'i ddiogelwch yntau; ond eto y gallent yn hawdd groesi y gors â'u ceffylau, ac ag ychydig farchogion orthrechu y Cymry, neu eu gyru ar ffo. Ar dderbyniad y genadwri archodd Wallter de Godarville, ceidwad y castell, i'w wŷr godi eu harfau, a chan esgyn eu meirch daethant gyda brys i'r lle. Ond y Cymry, mewn modd cyfrwys, a gymerasant arnynt ofni eu dyfodiad, gan ffug-ddianc i'r coed, a'r marchogion yn falch o hyn a yspardun- asant rhagddynt; ond nid cynt hynny nag y suddasant oll hyd at dòrau eu hanifeiliaid yn y llaid a'r anhrefn: a'r Cymry yn gwylied hyn a ddychwelasant yn eu holau, gan ladd y marchogion a'u meirch â'u gwaewffyn. "Os drwg cynt, gwaeth wed'yn." Dywed M. Paris i'r dialedd hwn o eiddo'r Cymry ffyrnigo'r Saeson fel ag y bu iddynt, mewn ysgarmesoedd tra mynych wedi hyn, fwrw eu llid ar yr hen genedl mewn moddau tra blinderus; ond y Cymry, fel y mae'n rhaid iddo gyfaddef, oeddynt drechaf gan amlaf. Wedi hyn bu iddynt gymeryd gedicis mab Rhichard de Argenton, câdwr galluog, ac ereill o lai nôd. Oddiwrth fynegiad yr awdwr Seisnig, ymddengys fod holl allu eu brenin yn ymgynulledig ar y maes, a'i holl fwriadau at ddarostwng y Cymry a'u gwlad; ond y brenin wrth weled anhyblygrwydd gwarau deiliaid Llewelyn i ymostwng i estroniaid, a chan gofio dichell yr abbad a bender- fynodd losgi'r Fonachlog: ond yr abbad a ddaeth i heddwch âg ef, gydag addewid y talai ef iddo dri chant marc o arian, ac mewn canlyniad ca'dd yr abbad-ty heddwch y tro hwn, trwy ddichell ac addewid.
Yn y flwyddyn 1244, bu ysgarmesoedd blinion a gwaedlyd cyd- rhwng y Saeson a'r Cymry o dan eu tywysog Dafydd ab Llewelyn,