(gwŷr o uffern ydoedd y rhai hyn), Henbedestyr a Henwas Adeiniog, nid allai dyn ar geffyl ganlyn y ddeuddyn hyn. Sgilti Ysgawndroed a äi i neges tros ei arglwydd, ac a gerddai ar frigau'r coed; Drem ab Dremidydd a welai o'r Gelli Wig yn Nghernyw (Cornwall) wybedyn yn codi efo'r haul yn Blathaon, yn Ngogledd Prydain. Gilla Coes Hydd, yr hwn a allai neidio tri chan' erw ar un naid. Gwadyn Osol, gan faint ei bwysau, a suddai y mynydd uwchaf: Sol a allai sefyll ar ei untroed am ddiwrnod cyfan: Henfydd Hen, Ellylw ach Niwl Cyngrog, Gair ab Geirion, Clust ab Clustfeiniat (pe claddesid ef naw cufydd yn y ddaear, gallai glywed gwybedyn ddeng milltir o ffordd yn codi o'i lwth yn y boreu), Gwrhir Gwastawd leithoedd (yr hwn a wyddai bob iaith), Medyr ab Methredydd o'r Gelliwig (gallai ef saethu y dryw rhwng ei ddwygoes hyd ar Esgair Oerfel yn Iwerddon), Gwiawn Lygad Cath (yr hwn allai dori pilen oddiar lygad gwybedyn yn ddiarwybod iddo), Ol ab Olwydd (saith mlynedd cyn ei eni lladratäwyd moch ei dad, ac ar ol iddo dyfu'n ddyn efe a'u holrheinies, ac a'u dygodd yn ol yn saith genfaint), Belwini Esgob (yr hwn a fendigai fwyd a diod Arthur Frenin), Gwenllian Dég (y forwyn fawrfrydig), Morfudd ferch Urien Rheged, Creiddylad ferch Lludd Llaw Eraint (y fenyw ardderchocaf yn nhair Ynys y cedyrn a'u tair rhagynys; ac am hono y mae Gwythyr ab Greidiawl a Gwyn ab Nudd yn ymladd bob dydd Calanmai hyd ddydd brawd), Ellylw ferch Neol Cyn-Crog (yr hwn a fu byw am dair oes); Olwen, cariadferch Cilhwch ab Cilydd (gwisg o sidan fflamgoch oedd am dani, a chad- wen o ruddaur a pherlau emerald oedd am ei gwddf; melynach oedd ei phen na blodau y danadl, a gwynach ei chroen nag ewyn y don. Tecach oedd ei dwylaw a'i bysedd na blodau'r anemoni yn ewyn ffynon gweirglodd dysglaeriach oedd ei llygaid na golwg y gwalch a'r hebog: gwynach oedd ei dwy fron na bron yr alarch gwyn, cochach ei dwyrudd na'r claret cochaf: pedair o feillion a dyfent yn ol ei throed, pa ffordd bynag y cerddai: ac am hyny y gelwid hi Olwen, a hi oedd ferch Yspaddeden Pencawr: Cai (gallai ef ddal ei anadl dan ddwfr am naw niwrnod a naw nos a byw am naw niwrnod a. naw nos heb gysgu). Sandde Bryd
Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/64
Prawfddarllenwyd y dudalen hon