Clywai y breuddwydiwr leisiau annaearol yn gymysgedig â gruddfanau y corwynt, a gwelai glytiau mawrion o iâ yn llithro heibio yn nghanol luwchfeydd, gwlaw a chenllusg; ac yn ngoleuni y fellten ddiweddaf, gwelai y ddrychiolaeth yn tynu ei llaw oddiar ei llygaid, ac yn datguddio gwynebpryd geneth ieuanc-gwyneb Gwenlliw-mor angeuol ei thremyn, mor llawn o drallod chwerw, fel y deffrodd y breuddwydiwr yn grynedig, a dafnau mawrion of chwys yn crogi ar ei ddwy ael.
"Bu yn myfyrio am enyd beth allasai fod ystyr y weledigaeth ryfedd, ond meistrolodd cwsg ef eilwaith; a deffrodd mewn bore brâf yr awyr yn lâs, yr adar yn llawen ganu, a'r coed a'r maesydd wedi adfywio ar ol y dymhestl. Aeth i lawr i'r ystafell foreufwyd gyda chalon ysgafn, lle yr oedd Gruffydd a'i ddau fab a'i ddwy ferch henaf, ac wedi cyfnewid moesgyfarchiadau, gwelwyd fod Gwen yn absenol.
"Anfynych y mae hi yn olaf,' ebe ei thad, anfonwch ei llaw- forwyn i'w hysbysu ein bod oll yn disgwyl am dani." "Daeth y forwynig yn ol, gan ddyweyd fod drws ei hystafell yn glöedig, ac iddi guro amryw weithiau, heb gael un ateb. Synasant at yr hysbysiad hwn: aethant oll i fyny ar frys, yn cael eu blaen- ori gan y penteulu; yr hwn a alwodd wrth ddrws yr ystafell, mewn llais crynedig:-
"Gwen! Gwenlliw, fy anwylyd.'
Dim ateb. Torwyd y ddôr, ac yr oedd yr ystafell yn wag, y ffenestr yn agored, a darn o riban ar yr astalch oddiallan wedi ei fwydo a'i ddrygliwio gan y gwlaw. Adwaenid ef fel eiddo Gwen- lliw; a chasglwyd oddiwrth hyn fod y ffoadures allan cyn i'r ystorm ddechreu, ac i hwn syrthio oddiwrthi ar ei hymdaith. Yr oedd pob mynwes erbyn hyn yn faes ymryson gwahanol opiniynau, a chrebwyll pob un ohonynt ar lawn waith; ymddangosai Gruffydd wedi ymgolli mewn syndod-nid ynganai air am enyd wrth neb.