Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/72

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mantell fraith, wedi ei llygru gan y gwlaw a'r pridd, yr eisteddai Gwenlliw mor oer a'r Gader ei hunan. Ei gwallt hir didrefn yn gorchuddio ei gwyneb prydferth; a'i dwylaw bychain wedi eu tyn-blethu yn eu gilydd. Gwasgodd hi i'w fynwes mewn dull haner. gwallgofus, galwodd arni wrth ei henw, gwahanodd y gwallt gwlyb oddiar ei hwyneb, a gwelai yno yr un ddelw o drueni-yr un argraff o gyfyngder ac arswyd ag a bortreadwyd iddi gan ei ddychymyg mewn breuddwyd.

"Ond yr oedd ei thafod hi yn rhy gaeth i ddyferu gair o gysur iddo yn ei adfyd, y llygad gloew bywiog megis wedi sefyll, gan hylldremu ar bethau dychrynadwy, a'r galon oedd ddoe yn chwyddo gan serch wedi oeri am byth. Claddwyd hi wedi machlud haul tu cefn i eglwys y plwyf,-lle beddrod estroniaid, a'r dosparth hwnw o ddynolryw a aberthant fywyd ar allor drychfeddwl. "Oherwydd amgylchiadau ei marwolaeth, ni ddarllenwyd y Gwasanaeth Claddu. Yr ochenaid yn unig a dorai ar ddistawrwydd y seremoni, hyd oni ddiangodd y geiriau hyn o enau y tad: "Gwyn ei fyd y puro galon;" ac yr atebwyd ei ddymuniad gan "Amen" pawb oedd yn bresenol.

"Teimlai Griffin ei galon yn hollti yn ysgyrion, a phob peth anwyl ganddo ar wyneb daear yn cael eu claddu gyda'i anwylyd. Aeth yn ol o Gymru, byth i ddychwelyd mwy; a seriwyd delw Cader Idris, a Gwenlliw brydferth farw yn eistedd ynddi, ar lechres ei galon nad all amser a'i amgylchiadau byth eu dileu."

Yn awr, rhoddaf y pleser o ymchwiliad i bob ymwelwr â Dolgellau a'i Chader, i gael allan y safleoedd a awgrymir yn yr hanes hwn, sef, yn gyntaf, Arsyllfa Seryddol Idris Gawr: yn ail, y llwybr oddiar ba un y taflai'r cawr y "graian" o'i esgidiau: yn drydydd, y mangrëoedd bu "Pendefiges y Gader," Gwenlliw a'r Prydydd Hir mewn cwsg ac ymchwil am wybodau yn bedwerydd, man y safai Eglwys Gwanas: ac yn bumed, safle etifeddiaeth Talglyn— cartref gwych Gwenlliw, cariadferch y Sais-gyfreithydd.