Dygir Gwanas i sylw o'r cyfnod Derwyddol, gydag "Englynion y Beddau," neu gof-englynion Beddau Milwyr Ynys Prydain, megys,—
"Y beddau hir yn Ngwanas,
Ni chafas ac dioes
Pwy fynt hwy, pwy eu neges."
Hynny yw, "Pwy a'u myn, neu pwy a'u nacâ." Eto,—
"Bedd Gwrgi Gwychydd, a Gwyndodydd Ler,
A bedd llawr Lluofydd,
Yn ngwarthaf gwanas gwir y sydd."
Eto,—
"Teulu oeth ac anoeth a dyn y noeth,
Yeu gwr yeu guas,
Ae keissio uy calet guanas."
Credai Carnhuanawc fod y cyntaf mor hen fel nad oes son am dano hyd yn nod yn yr oesoedd cynar, ond fod y llall yn ddiweddarach. Mae'r beddau hir" wedi cau am ryw Dderwyddon o nod yn llosgedig, neu heb waith tân, canys cafwyd cynwysiad aml fedd yn y naill ffordd neu'r llall. Camp a fyddai cael deongliad cywir o'r trydydd uchod.
Eto, beddau ereill ar lan y mor,—
"Yn Abergenoli y mae bedd Pryderi,
Yn y tereu tonau tir
Yn Carrawe bedd Gwallawc Hir."
Wrth Abergenoli deallir Abergynolwyn. Pryderi ab Pwyll Pen. Annwn, penaeth Dyfed, a chymeriad hynod yr hen ramantau Cymreig. Lladdwyd ef gan Gwydion ab Don mewn brwydr law-law a gymerth le gerllaw Rhyd Melenydd ar yr afon Cynfael, yn Ardudwy. Un awdurdod a esyd ei fedd yn Maen Tyriawg, ger Ffestiniog. Geilw Lewis Glyn Cothi Dyfed yn "wlad Pryderi," a Dafydd ab Gwilym a'i geilw yn "Pryderi dir." Gwallawg ab Lleenawg oedd benaeth ar ran o Bowys, tua'r Amwythig, yn y 6ed ganrif. Rhestrir ef gyda Dunawd Fflur a Chynfelyn Drwsgl fel "tri phost câd Ynys Prydain." Dywed y Brutiau Cymreig ei fod