RHAGYMADRODD.
O bosibl mai nid hwn yw'r llyfr a ddisgwyliai rhai ei gael. Mynnai rhai imi roi hanes llawn pob enwad; ond gofynnai hynny nid cyfrol, ond cyfres. Mynnai eraill imi roi hanes personol pob Diwygiwr, neu hanes pob Eglwys unigol; ond golygai hynny nid llyfr, ond llyfrfa!
Tri amcan mawr y sydd i'r llyfr hwn, sef:—
1. Olrhain hanes dechreuad y Pedwar Enwad Ymneillduol;
2. Adrodd hanes eu brwydrau am Ryddid Gwladol a Chrefyddol; a
3. Dangos Diwygwyr Cymru, nid fel unigolion, ond yn eu perthynas hanfodol â'u gilydd.
Dyna'r tri nôd a geisiais eu cadw o'm blaen wrth ysgrifennu'r llyfr.
Barned y darllenydd a gyrhaeddais hwynt.
Wrth ymgyrraedd at y tri nod, ceisiais weithredu oddiar dair egwyddor, sef:—
1. Peidio gwyro barn er mwyn Plaid nac Enwad;
2. Rhoi'r gwirionedd hanesyddol, ai ffafriol ai anffafriol a fyddai;
3. Chwilio am dystiolaeth safadwy, nid mewn llyfrau a gyhoeddwyd gan eraill, ond hyd oedd yn bosibl mewn llawysgrifau gwreiddiol y cyfnod. Canlyniad gweithredu ar yr egwyddorion hyn yw, fy mod dan orfodaeth i ddweyd rhai pethau y buasai yn dda gennyf beidio eu dweyd; a fy mod yn methu dweyd rhai pethau yr hoffwn, ac y bwriadwn unwaith, eu dweyd,—am fy mod yn cael nad ydynt wir. Gan nad pa fai a ddarganfydda fy meirniaid yn y llyfr hwn, ni fedr neb gyhuddo'r awdwr o gynhyrchu gwaith nad yw, yn ei hanfod, yn ei gynllun, ac yn ei gynnwys, yn hollol wreiddiol. Mor bell ag y mae a fynno'r hanes sydd yn y llyfr, mae yn seiliedig ar ffeithiau hanesyddol profedig, ac nid ar ddamcaniaethau. Mor bell ag y mae a fynno'r casgliadau a dynnir oddiwrth yr hanes, myfi sydd gyfrifol am danynt,—ond credaf fod yr hanes yn eu cyfiawnhau.
Gwn fy mod yn yr hanes, ac yn y casgliadau, yn gwahaniaethu yn fawr oddiwrth y rhan fwyaf o haneswyr blaenorol perthynol i efallai bob enwad yng Nghymru. Ond lle y gwahaniaethaf oddiwrthynt, gellir olrhain y gwahaniaeth i'r ffaith fy mod, ymhob amgylchiad posibl, wedi mynd i lygad y ffynnon am y gwirionedd, yn lle derbyn tystiolaeth ail law, na chymeryd dim yn ganiataol os oedd tystiolaeth wreiddiol yn gyrhaeddadwy.
Gwn yr ymddengys rhai personau a rhai digwyddiadau, yng ngoleuni'r llyfr hwn yn fwy, ac eraill yn llai, nag yr arferid eu cyfrif. Na feier awdwr y llyfr am hynny. Beier yn hytrach y zel, neu'r anwybodaeth, a wnai i ysgrifenwyr eraill ddarlunio corach fel cawr, neu fynnydd fel twmpath morgrug. Nid myfi sydd wedi creu, na phenderfynnu maintioli'r corach na'r cawr, y mynydd na'r twmpath. Nid wyf ond yn unig wedi troi goleuni disglaer gwirionedd hanesyddol arnynt, a galluogi'r darllenydd i'w gweled yn eu golygiant (perspective) cywir,—ac o ganlyniad yn eu maintioli priodol. Na feier fi, ychwaith, os gwelir, yng ngoleuni clir hanes, mai pridd, wedi'r cwbl, yw ambell i ddelw a dybid oedd yn aur coeth drwyddi.
Nid wyf yn disgwyl y cytuna pawb â phopeth a ddywedir yn y llyfr. Yr wyf yn dwyn ymlaen rai ffeithiau rhy newydd, rhai a darawant yn rhy syn ar y meddwl, ac a ddymchwelant o bosibl rai cyfeiliornadau rhy