Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/10

Gwirwyd y dudalen hon

DRAMA

RHYS LEWIS.

————————————

Y PERSONAU A GYNRYCHIOLIR,—


  • RHYS LEWIS.
  • MARI LEWIS, mam Rhys.
  • BOB, brawd Rhys.
  • WIL BRYAN.
  • MARGED PITARS cymdoges.
  • SERGEANT WILLIAMS.
  • TOMOS BARTLEY, y crydd.
  • BARBARA, gwraig Tomos Bartley.
  • Miss HUGHES, chwaer Abel Hughes.
  • JAMES, brawd tad Rhys.
  • LLETYWRAIG RHYS A WILLIAMS.
  • WILLIAMS, Myfyriwr yn y Coleg.
  • ATHRAW A MYFYRWYR YNG NGHOLEG Y BALA.
  • SUS, yr hon y mae Wil Bryan yn ei phriodi.

——————

ACT I.

CARTREF MARI LEWIS.

BWRDD, TAIR CADAIR, CLOC, A RHAI DODREFN. GOLYGFA 1.—Lle mae MARI LEWIS yn achwyn am y streicio, ac yn cwyno fod BOB yn cymeryd rhan.—MARGED PITARS yn ymweld a MARI LEWIS.—BOB yn dychwelyd o helynt y Glowyr, ac yn ymddiddan a'i fam.—MARI LEWIS yn ofni'r canlyniadau.—SERGEANT WILLIAMS yn dod i'r ty, ac yn cyflwyno'r wys i BOB. —BOB yn garcharor.—RHYS yn dychrynnu, a'i fam yn wylo.

MARI LEWIS (yn siarad wrthi ei hun), Wn i ddim be ddaw o honom ni 'rwan. Dyma Bob wedi colli ei waith, a Rhys yn cael dim ond digon i'w gadw mewn 'sgidiau. Mae'r streics 'ma yn bethe creulon. Dyden nhw ddim yn perthyn i ni,—y Cymry. Pethe wedi dwad oddiwrth y Saeson yde nhw. Fu 'rioed son am streics yma cyn i