Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/35

Gwirwyd y dudalen hon

WIL BRYAN,—"Wel, aros di, welis i monot ar ol y seiat y ces di dy alw i bregethu, ond dyma ni, just y peth, 'roeddwn i eisio cael ymgom efo ti."

RHYS,—"Mi wyddwn, Wil, y cawn i'r hanes i gyd gennyt. Sut y bu hi ar ol iddyn nhw ngyrru i allan?

WIL BRYAN,—"Bydawn i yn rhoi verbatim report i ti, wnai o les yn y byd i ti. Yr unig beth ddaru diclo tipyn ar 'y ffansi i, oedd yr Hen Grafwr yn insistio am i ti bregethu o flaen y seiat iddyn nhw weld ffasiwn stwff sydd ynnot ti, a'r hen Water Wyres yn'i ateb o y basa'r cynllun yn un iawn bydaset ti newydd ddwad o'r Merica, a neb yn gwybod am danat ti. Dydw i ddim yn gwybod am ddim arall gwerth ei adrodd wrthot ti, heblaw fod yr hen thorough bred, Tomos Bartley, pan oeddan ni'n codi llaw o d'ochor di, wedi codi ei ddwy law,—'run fath a phictiwr Whitfield, a hynny, 'roeddwn i yn meddwl, fel apology am the unavoidable absence of Barbara Bartley, owing to a severe attack of rheumatism. 'Rydw i wedi dwad yma i gael ymgom difrifol hefo ti, ond rhaid cael Miss o'r ffordd. Sut? Mi wn i," (Troi y cloc, wedi boddloni ei hun fod Miss Hughes yn cysgu, o 11 p.m. 1 a.m., yna tery ei law ar y bwrdd).

MISS HUGHES (yn edrych ar y cloc),—"Dear me! fel mae yr amser yn mynd wrth ddarllen. 'Rydw i'n mynd. Nos da. Peidiwch aros i fyny yn hir."

WIL BRYAN,—"Love story sydd gennych yn siwr, Miss Hughes. Well i chwi aros peth eto?"

MISS HUGHES,—" Na, rhaid i mi fynd" (gan oleu y ganwyll).

WIL BRYAN (yn ei chwythu allan)," Mae 'ma ryw draft garw, Miss Hughes."

MISS HUGHES,—" Peidiwch ag aros ar eich traed yn hir, fechgyn."

WIL BRYAN,—"Nawn ni ddim. Good night, Miss Hughes, happy dreams."

(Exit Miss HUGHES).

WIL BRYAN,—"Bravo! Wel, Rhys, 'rwyt ti wedi cyrraedd y point yr ydw i wedi bod yn edrach am dano ers talwm. Yr wyt ti 'rwan wedi dewis dy brofession; a choelia fi, mae yn dda gen i feddwl mai pregethwr wyt ti am fod. Mae nghydwybod i heno dipyn yn fwy tawel. Mi wn o'r gore mai fi ddaru dy daflu di oddiar y metals, a fum i byth yn