Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/42

Gwirwyd y dudalen hon

i'r Bala, a mae nhw wedi fy siarsio i ddeyd wrthat ti am 'i gadw fo yma cyd ag y medri di. Fedren ni mo'i smyglo fo i'r class, dywed? Mi fydde yn perfect treat."

RHYS,—"Fydde hynny ddim quite y peth. Mae o yn dipyn o brofedigaeth i mi, achos mi fydd raid i mi fynd ag o o gwmpas. Bydase'r creadur wedi gadael y goler fawr yna gartre, mi fase yn dda iawn gen i. Mi fydd pawb yn edrach ar y'n hola ni."

WILLIAMS,—"Paid a chyboli! Fase fo ddim chwarter cystal heb y goler.Mae'r goler yn werth can punt. Ga i ddod hefo chi? Os ca i, mi geiff y mathematics am heddyw'r prydnawn fynd i Jerico.

RHYS,—"Gei di, wir! Yr oeddwn ar fedr cynnyg pum swllt i ti am ddwad i gymeryd peth o'r cywilydd."

(Y LETYWRAIG yn estyn dau lythyr. WILLIAMS yn eu cymeryd).

WILLIAMS—"Rhys Lewis' sydd ar y ddau. Hwde, Rhys, dau fil, mi wn."

RHYS,—(Yn darllen un dan wenu).

WILLIAMS,—"Pa newydd oddiwrth Mary Jane? Ydi hi'n iach?

RHYS,—"Paid a lolian, Williams. Edrych, beth ddyliet ti yw hwn? Gwahoddiad oddiwrth fy hen eglwys, Bethel, i fynd yn weinidog arni."

WILLIAMS,—"Llongyfarchiadau lond gwlad. Unpeth eto, Rhys."

RHYS,—"Beth ydi hwnnw, Williams?"

WILLIAMS,—"Gwraig reit dda."

(Rhys yn darllen y llythyr arall ac yn gwelwi).

WILLIAMS,"—Pam mae dy wedd yn newid, pa newydd drwg?

RHYS,—"Dyma lythyr o garchar Birmingham, yn dweyd fod yno berthynas i mi ar ei wely angeu, ac fod yn rhaid i mi fynd yno ar unwaith i'w weld."

TOMOS(oddiallan),—"Ydach chi ddim yn dwad, fechgyn? 'Rydach chi'n hir iawn."

[CURTAIN.]