Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/102

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfamod yn fy medydd; llithraf a chwympaf aml waith ar ddyrus lwybrau bywyd, ond ni fyddaf byth yn unig mwy. Cwmni dedwydd iawn oedd yn cyrraedd Troed yr Orsedd nos Nadolig, a minnau y dedwyddaf o bawb, ac un o freuddwydion fy mebyd wedi ei sylweddoli yn ei holl felusder. A chwithau, ddarllenwyr mwyn, gobeithiaf fod i bob un o honoch ryw freuddwyd melus, ac y daw i chwithau sylweddoliad a mwyniant anhraethol.