![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/65/Dringo%27r_Andes_%28page_103_crop%29.jpg/500px-Dringo%27r_Andes_%28page_103_crop%29.jpg)
PENNOD XII.
NOSON YN Y GOEDWIG
R oeddwn i gael un daith fythgofiadwy arall
cyn canu'n iach à Bro Hydref, ond 'rwy'n
digalonni wrth feddwl am geisio dweyd yr
hanes. Mynd i weled cewri'r goedwig oedd
yn tyfu ar lethrau Gorsedd y Cwmwl: coed pin, coed
bedw, etc., anferthol o faint, fel pe'n ceisio efelychu'r cawr
gwyn oedd fry yn y cymylau uwch eu pennau. Dywedai
Daler bethau anhygoel am danynt, a minnau yn orlawn
o gywreinrwydd, ac er ei bod yn amser prysur yn y Fro,
a ninnau, y cwmni gwladfaol yn prysur bacio, bu raid gadael
pob peth a chychwyn.
Nid oedd y ffordd ymhell, meddai'r arweinydd; dim ond i ni gychwyn ganol dydd, a mynd å byrbryd gyda ni i'w fwynhau yng nghysgod y cewri, a dod yn ol fin yr hwyr wrth ein hamdden. Onid yw'r rhaglen yn darllen yn rhwydd a syml? Eithr na thwyller chwi, ddarllenwyr