Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/104

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tirion; trwy orthrymderau fil y cawsom ni ail olwg ar fythynnod coed y Fro. Cychwynnem yn gwmni llawen, a'n hwynebau tua'r goedwig a'r mynydd; yn fuan daeth yn gryn gamp inni weithio ein ffordd ymlaen rhwrig aml ganghennau'r coed, a'r creepers afrifed fel gwê'r copyn yn taenu eu rhwydau blodeuog rhwng pob cangen werdd. Fel llwybrau'r Indiaid ar y peithdir, felly mae llwybrau yr anifeiliaid yng nghoedwigoedd yr Andes; dyna eu llochesau pan fo'r eira yn gordoi'r dolydd. Deuthum i deimlo yn fuan mai fy nghynllun goreu oedd gadael yr arweinyddiaeth yng ngofal yr hen geffyl ffyddlon, deallus, a threio gwylio'r canghennau rhag fy nghrogi. Gwaeddem ar ein gilydd er cael rhyw amcan i ba gyfeiriad yr oeddym yn mynd, canys gwlad y gwyll a'r cysgodion yw coedwigoedd yr Andes, gydag ambell i fflach o belydrau'r haul drwy y ffurfafen ddeiliog.

Yr oedd yno ffrydiau mân, grisialog, yn dyfal gario bywyd a nerth i ddirif lu'r Orsedd, ac yn murmur a dawnsio ar eu gwelyau mwswgl. Er nad oeddym yn gweled dim ond y coed., etc, teimlem mai graddol godi yr oeddym, a Dalar yn dal i arwain a ninnau yn dal i ddilyn mewn llawn hyder ffydd. Sylwem fod y coed yn dechreu praffu, a'r mân goed yn lleihau, fel pe byddai'r cewri am eu mygu o fodolacth. Yr oedd amaf eisieu sefyll i ddechreu mesur y coed, ond "Mae gwell ymlaen" oedd y gri o hyd: a minnau yn synnu ac yn rhyfeddu, a neb yn dweyd dim, pawb yn mynd yn ei ddau ddwbl, ac yn gwylio pob cangen fel barcud, ac yn troi ac yn trosi fel seirff. Yn fy myw ni allwn beidio meddwl am fintai