Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/105

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o yspiwyr yn mynd drwy wlad y gelyn-ofn clywed yr un brigyn yn torri dan garnau'r meirch; ceisio treiddio- i'r gwyll am lygad estron, os torrai cangen yn sydyn, gwingem fel pe rhag saeth elynol.

Yr oedd y coed mor enfawr erbyn hyn nes y collem ein gilydd yn eu cysgod; ac fel y distaw nesai'r nos, ymddyrchafent fel hen filwyr dan lawn arfau. Dal i ddringo yr oeddym, a gallasem ddringo am oriau meith- ion heb fod fawr nes i Orsedd y Cwmwl. Ond wedi dod. at hen frenhines dalgref a estynnai ei breichiau cawraidd fel pe am lapio'r brenin gwyn acw yn ei chôl, cawsom ganiatad i ddisgyn a gorffwys, a syllu ac edmygu wrth fodd ein calon.

Gresyn na ellid crynhoi holl eiddilod hunanol y byd, a'u halltudio i un o goedwigoedd yr Andes am flwyddyn: fe syrthiai eu hunanoldeb fel mantell oddi am danynt, a deuent eilwaith yn blant bychain gyda chalonnau gwylaidd llawn o barchedig ofn. Nid oes modd dweyd mewn geiriau am fawredd aruthrol y coed yma; ac o'r lle y saíem caem gip ar y pigynnau gwynion draw yn yr uchelderau; ac O! gwelwch, mae'r haul yn machlud! Ni allem ni weld yr haul wrth reswm, ond dacw'r bysedd dwyfol yn tynnu llun yr haul ar yr ia oesol, a ninnau yn cael edrych arno! Gwyn fyd na chaffai pawb syllu ar olygfa debyg unwaith mewn oes: byddai fel ffrwd fywiol yn y galon, ac yn ystorfa ddihysbydd o felusder a nerth yn oriau tywyll, chwerw bywyd. I mit y mae'r darlun yn felusach heddyw nag y bu erioed, pan ymhell o dir fy ngwlad, a haul a hindda wedi ffoi; ond mae'r haul ar yr Orsedd o hyd.