Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/107

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Buom yn hir iawn cyn gallu sylweddoli dim ar ein cylchynion methid tynnu'r llygaid oddiar yr Orsedd, er ei bod hi erbyn hyn wedi mynd yn Orsedd y Cwmwl yn llythrennol, ond yr oedd y darlun mewn du a gwyn lawn mor swynhudol, er nad mor ogoneddus. Ond bu raid i'r arweinydd ein deffro; gwyddai efe yn well nâ ni anawsderau'r dychwelyd drwy nos gaddug y goedwig. Cawsom fwynhau ein byrbryd ar fin nant, un o genhadon yr Orsedd, a sisialai gyfrinion y llys gwyn fry; ond ysywaeth nid oeddym ni yn ddigon pur ein calon i'w deall, er fod yr ymdeimlad o anheilyngdod yn wers fawr i'w chofio. Tipyn o beth oedd cael torri newyn mewn cwmni mor urddasol, a moesymgrymai breninesau'r dalaeth fawr hon mewn croesaw pêr i'r teithwyr pell.

Erbyn hyn yr oedd y nos yn gordoi'r wlad, ac nid ces gwyllnos yn Neheudir America, a bu raid i ninnau feddwl am droi pennau'r meirch tuag adref, neu anelu oreu gallem tua'r cyfeiriad hwnnw. Ond buan y daethom i'r penderfyniad fod gennym orchwyl difrifol o'n blaenau; yr oedd dilyn y llwybrau cul liw dydd yn gryn gamp, ond yr oedd yn wrhydri liw nos. Ymlaen yr aem yn ddistaw bryderus, mewn perygl bywyd bob munud. Wedi teithio am oriau fel hyn, cau yn dynnach am danom yr oedd y goedwig, a phob llwybr wedi ei hen golli. Meddwi am ben draw y drysni yr oeddym, ond a'n helpo! gallasem deithio cannoedd o filltiroedd heb wel'd y ffurfafen. Yr oeddwn wedi bod ar fin cael codwm amryw weithiau, drwy fod fy ngheffyl yn gallu mynd o dan y canghennau a minnau yn methu eu gweled i ostwng danynt; ond o'r diwedd, yr hyn a ofnais a ddaeth i'm rhan,