Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/108

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac i lawr â mi ar wastad fy nghefn, a'm pen rhwng dau droed ol y ceffyl. Buasai ambell geffyl wedi rhoi terfyn ar fy cinioes mewn ychydig eiliadau, ond yr oeddym ni ein dau yn gyfeillion mawr, ac adwaenai fy llais o bell. Yr oeddym wedi cael aml scwrs yn ystod ein teithiau, ac ni fyddwn byth yn disgyn oddiar ei gefn heb ddiolch iddo yn dyner mewn iaith ag y mae pob anifail mud yn ei deall yn drwyadl. Gwyddai efe wrth fy ngwaedd ddy chrynedig fod rhywbeth allan o le, a safodd mewn amrantiad, gan edrych drach ei gefn mewn cydymdeimlad a chywreinrwydd a phan godais o'm gwely mwswgl yr oedd ei lawenydd yn fawr, a rhwbiai ei ben yn fy ngwisg fel pe i wneud yn sicr fod fy esgyrn oll yn gyfain; bu'r un anifail dewr yn gyfaill imi drwy'r diluw wedi hyn, ac achubodd fy mywyd amryw droion.

Gwelodd pawb erbyn hyn fod yn rhaid disgyn, nad gwiw rhyfygu ychwaneg, ac arwain ein hanifeiliaid yn ofalus rhwng y coed. Addefai ein harweinydd na wyddai efe ar glawr daear pa le yr oeddym, ond y byddem yn sicr o ddod allan i'r gwastadedd ond i ni ddal i deithio i'r un cyfeiriad. Yr oeddym yn flinedig a newynnog erbyn hyn, canys yr oedd ymhell ar y nos, a ninnau wedi bod yn teithio yn ddiorffwys er canol dydd. Dringem ambell i lechwedd dyrus, mwsoglyd, gan arwain yr anifeiliaid blinedig, yna aem bendramwr.wgl i lawr ceunant serth, a chyn y gallem sefyll yr oeddym ynghanol ffrwd, yn canu'n iach yn ei gwely graean, ac yn synnu at ymwelwyr mor ddi-barch o lendid ei dyfroedd. Mwynhâi yr hen geffylau y ddiod iachus, a buasem ninnau'n mwyn- hau'r ddiod yn burion, ond nid oedd bath rhewllyd ganol nos mor dderbyniol.