Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi teithio fel hyn drwy ddrysni a dŵr, dros bant a bryn, am oriau meithion, blinion, daethpwyd i'r penderfyniad unfrydol mai gwell oedd llechu man yr oeddym hyd doriad gwawr. Yr oedd y newydd bron cystal â phe wedi cyrraedd pen y daith. Dadgeriodd pawb ei geffyl, gan ei gylymu'n ddiogel man y cae efe flewyn melus i dorri ei newyn. Yna crynhowyd tanwydd a gwnaed coelcerth, canys yr oeddem yn oer a gwlyb, heblaw yn flinedig. Tân ardderchog oedd hwnnw, canys nid oedd eisieu cynhilo y defnyddiau; taflem foncyff ar ol boncyff i ganol y flamau nes goleuo a sirioli'r holl gylchynion, a phe buasai gennym grystyn i gnoi cil arno er torri newyn buasai ein mwyniant yn berffaith. Teimlem braidd yn ciddigeddus wrth yr hen geffylau yn pori'r glaswellt iraidd wrth fodd eu calon, ac yn gweryru o wir fwyniant gan ddweyd hanes y wledd y naill wrth y llall, tra ninnau yn gorwedd gylch y tân a'r naill ochr yn rhewi tra'r llall yn rhostio, ac yn meddwl mewn hiraeth am y caban coed adawsem y bore, a'r ford lawn danteithion. Ond fel y tymherai'r tân yr awyrgylch, ac y sychai ein dillad, ac y dadflinai ein cymalau, graddol lithrodd swyn a dieithrwch yr olygía i'n calonnau, gan wneud i ni anghofio pob anghysur.

Dyma ni mewn coedwig gannoedd o filltiroedd o hyd, a chyn dyfodiad y Cymry i'r Fro yn 1886 nid oedd yr un dyn gwyn wedi ei gweld erioed, na nemawr neb o'r hen frodorion wedi treiddio i ganol ei drysni, canys drwg- dybient wyll y coedwigoedd, gan gredu mai dyma gartref a chyrchfan holl ysbrydion drwg y byd, ac hyd heddyw mae'r ofergoeledd yma'n gryf ymhob calon frodorol.