meddyliais yn sicr fod holl ddeiliach a mwswgl y goedwig yn dechreu symud, a chodais ar fy eistedd gan rwbio'm llygaid er bod yn siwr nad breuddwydio yr oeddwn, ond na, gwelwch! mae yna lu afrifed o honynt yn dod tua'r tân! Yr oedd ofn gwirioneddol arnaf erbyn hyn; nid. oedd yn ddigon goleu i mi weled yn eglur, ac yr oedd fy nghyd—deithwyr yn cysgu'n braf. Ond o'r diwedd daeth. rhai o'r ymwelwyr dieithr yn ddigon agos i'r tân i mi eu gweled yn well,—dyma ddeilen grin debygwn, ond rhyfedd y son, mae wedi magu coesau anferth, ac yn brasgamue ddeheuig i gyfeiriad y gwersyll gan gymeryd stoc o'r olygfa ryfedd; yr oedd ganddi ddau lygad hefyd yn perlio ac yn gwibio rhwng gwyll a gwawr, a dyna lle y buom am rai eiliadau yn dyfal wylio y naill y llall, ac mi gredaf y cofiwn ein gilydd y rhawg. Ond erbyn hyn yr oedd yna amryw ymwelwyr ereill, pob un wedi dod i weled y dieithriaid,—darnau o risgl wedi magu pennau a choesau a llygaid, etc., llawer o fangoed, ambell i ddarn o fwswgl tlws odiaeth, blodau wedi gwywo, ambell i ddeilen werdd newydd gwympo; ac yn eu mysg gwelwn amryw hen gyfeillion, megys y chwilen ddu a'r chwilen werdd, symudliw, y pryf copyn, a'r genengoeg, ac wrth weled y rhai'n gwawriodd arnaf beth oedd y lleill. Yr oeddwn wedi darllen am bryfaid ac yinlusgiaid yn cymeryd lliw a ffurf eu cylchynion fel diogelwch, ond ni sylweddolais am foment wir ystyr yr hyn ddarllenaswn, ond byth er y noson honno mae pob llyfr naturiaethwr (os bydd yn caru natur) fel stori y Tylwyth Teg i blentyn, yn orlawn o ddyddordeb i mi. Gweld gyntaf, a darllen wedyn, yw'r ysgol oreu debygaf fi: onid oes gormod o ddarllen llyfrau a rhy fach
Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/112
Prawfddarllenwyd y dudalen hon