Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/114

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

plant y wawr ydynt hwy; ni wasanaethasant ond un Brenin erioed, a hwnnw'n ddidwyll a glân, o'u mebyd. Rhoiswn y byd pe yn ddigon pur fy nghalon i ddeall yr holl gyfrinion a sisialent wrth eu gilydd wrth ymgyfarch ar ddechreu diwrnod newydd.

'Welsoch chwi'r adar yn ymolch erioed? Dyna'r wers rymusaf mewn glendid a deimlais erioed; ac mor ddedwydd y maent yn ymbincio ac yn ymdrwsio, gan focsymgrymu'n gogaidd, a gwneud pob ymdumiau dichonadwy. Ac wedi iddynt yn siwr nad oes lychyn ar flaen aden, ac fod pob pluen yn ei lle yn bert a syber, cymer pob un ei le yn y côr, a phrin y caiff yr arweinydd amser i gyrraedd llwyfan gwyn acw, ac eistedd ar yr orsedd o dân ysol, na fydd y gân yn dechreu, ac yn esgyn yn un anthem. orfoleddus, yn aberth hedd a llawenydd; ac yna mewn amrantiad â pawb at ei orchwyl. Ymlanhau, diolch, a gweithio-dyna raglen yr adar. Gresyn meddwl mor wahanol yr eiddom ni yn aml, onide? Ymlygru mewn drygioni, grwgnach yn anfoddog, a diogi ac ymblesera, y byddwn ni yn fynych.

Ym Mexico, hyd yn ddiweddar iawn, ffynnai her arferiad. tlws a defosiynol ddaethai gyda'r Hispaeniaid yn amser y goncwest: cyferchid yr haul ar ei ddyfodiad bob bore âg anthem o fawl a diolch. Cenid cloch ychydig funudau cyn ymddanghosiad yr haul, ac agorai pawb ei ffenestr a arweiniai i'r veranda gylchynna bob ty Hispeinig, a safai'r holl deulu, o'r hynaf i'r ieuengaf, y meistr fel y caethwas, i gyfarch brenin y dydd. Mor debyg i'r adar, onide? Sicr yw y byddai miloedd o'r ednod cerddgar yn uno yn y