Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/116

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ceffylau dan ganu a dyfalu lle'r oeddym, ac

"Wele ni bawb ar gefn ei geffyl,
A dyma ni'n mynd dow dow, dow dow,
Ar garlam, a thuth, a phranc, Hwre!
Heb ofal nac ofn am rent na threth !
Ond meddwl am dy, a thân; a thê."

Buom yn hir yn cael cip ar gyrrau'r wlad, ac erbyn inni ddod allan o'r drysni, cawsom ein bod filltiroedd lawer yn is i lawr na'r cychwynfan, ac fod gennym daith hirfaith cyn cyrraedd cartref. Ond wedi i'r meirch gael eu carnau ar y gwastatir, a dod i ardaloedd cynefin, yr oeddynt yn mynd fel ewigod, a ninnau yn mwynhau'n ride i berffeithrwydd. Awel y bore fel dyfroedd bywiol yn disgyn oddiar y copâu gwynion, a phêr awel y pinwydd a'r myrdd blodau mân yn llanw'r awyrgylch â'u perarogl. O! yr oedd yr hen ddaear yn dlos y bore hwnnw, a bywyd yn felus iawn; gwyn fyd na chaffai pawb oriau euraidd fel hyn unwaith mewn oes: byddai stormydd bywyd yn haws eu goddef wedyn, ac ni chaffai'r temtiwr loches mewn calon a deimlodd agosed ddrws paradwys.

Fel y nesâem at y Fro, deuai aml i fwthyn coed i'r golwg, yn nythu mor dangnefeddus yng nghysgod y gwylwyr gwynion, a mwg eu simddeiau yn dyrchu tua'r nen yn aberth peraidd o'u tân coed glanwaith: brefiadau'r praidd ar y llethrau porfaog, y gwartheg yn cyrchu yn yrroedd mawrion tua'r corlannau erbyn amser godro, a'r cŵn yn dyfal gyfarth er ceisio didol yr hesb oddiwrth y laethes, a'r llanciau ar eu ceffylau bywiog yn gwibio yma a thraw, pawb ynghylch ei orchwyl; a ninnau—adar y nos—yn anelu am ddiddosrwydd, ond yn teimlo braidd