Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/123

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

storm cyn hyn. Plethodd ei breichiau tanllyd o amgylch ogylch y pren gan ei gofleidio i farwolaeth; mewn fflach y bu'r mall, ac mewn amrantiad y collodd ei nerth a'i degwch; syrthiodd yn ol ar fynwes yr hen fam a'i meithrinasai mor dyner.

Tra'r mellt ar eu hymgyrch fel hyn, ni phallai udgorn câd y taraneu, ac ni fu udgymn yn adsain yn ogoneddusach erioed,—atebent ei gilydd o gopa pob mynydd ac o grombil pob ceunant, nes diasbedain drwy'r wlad am filltiroedd. A ninnau'r cwmni mud yn cael edrych ar filwyr y nef yn gwneud eu gwaith. Gymaint o amser, a dyfais, a chyfoeth sy'n mynd i ddysgu rhyfela, onide? a brenhinoedd a theyrnasoedd yn cyfrif eu milwyr wrth y miloedd, a dim ond i Frenin y brenhinoedd anfon un o'i filwyr i'r gâd, gall chwalu byddinoedd y byd megys tywod o flaen corwynt.

Ond a ni'n edrych ar yr ystorm ac yn ei theimlo i eigion ein calonnau, graddol beidiai'r mellt, a chlywid rhu y daran yn dod o bell, fel pe'n chwyrnu'n anfoddog mewn llynclyn ar lethr Gorsedd y Cwmwl; teyrnasai tywyllwch —bron na ellid ei deimlo gan mor llethol ydoedd, a'r distawrwydd ofnadwy wedi'r fath gynnwrf yn gwneud i'r galon guro'n boenus, dan bwys teimladau dilafar. Ond wele'r ffurfafen ddu yn agor ei hystordai yn llu, gan dywallt ei mil ddefnynnau mân i ddisychedu'r hen ddaear grasboeth, ac i ireiddio gwellt y meusydd. Du yw pob storm i'r llygad di—ffydd, ond rhyfedd fel y blodeua ambell gymeriad dan groesau a gorthrymderau bywyd, onide? Mae'n gweled drwy'r düwch i gyd, ac wrth ddal i syllu fry yn derbyn yn helaeth o'r defnynnau bywiol sy'n